Neidio i'r cynnwys

Cyfarfodydd Cynulleidfaoedd Tystion Jehofa

Dysgu am ein cyfarfodydd. Dod o hyd i leoliad cyfarfod sy’n lleol i chi.

Cael hyd i'r Lleoliad Agosaf (yn agor mewn ffenest newydd)

Beth Sy’n Digwydd yn Ein Cyfarfodydd?

Mae Tystion Jehofa yn cyfarfod dwywaith yr wythnos. (Hebreaid 10:24, 25) Mae ein cyfarfodydd yn agored i bawb. Yno, rydyn ni’n astudio’r Beibl er mwyn rhoi ei gyngor ar waith yn ein bywydau.

Yn y rhan fwyaf o’n cyfarfodydd gall unrhyw un ymuno yn y drafodaeth. Does dim pwysau i gymryd rhan. Mae pob cyfarfod yn dechrau ac yn cloi gyda chân a gweddi.

Does dim rhaid bod yn un o Dystion Jehofa i fynychu cyfarfod. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ddod. Mae’r mynediad am ddim a does dim casgliad.