Neidio i'r cynnwys

Beth Yw’r Deg Gorchymyn?

Beth Yw’r Deg Gorchymyn?

Ateb y Beibl

 Deddfau a roddodd Duw i genedl Israel gynt yw’r Deg Gorchymyn. Adwaenir y cyfreithiau hyn hefyd fel y Deg Gair, neu’r Dengair, sydd yn gyfieithiad uniongyrchol o’r ymadrodd Hebraeg ʽaseʹreth had·defa·rimʹ. Mae’r ymadrodd hwn yn codi dair gwaith yn y Pumllyfr (Tora), sef y pum llyfr cyntaf yn y Beibl. (Exodus 34:28; Deuteronomium 4:13; 10:4) Yr ymadrodd cyfatebol Groeg, deʹca (deg) loʹgws (geiriau), yw tarddiad y term “Dengair.”

 Ysgrifennodd Duw y Deg Gorchymyn ar ddwy lechen o garreg a’u rhoi i Moses, ei broffwyd, ar Fynydd Sinai. (Exodus 24:12-18) Rhestrir y Deg Gorchymyn yn Exodus 20:1-17 a Deuteronomium 5:6-21.

 Rhestr o’r Deg Gorchymyn

  1.   Addola Jehofa Dduw yn unig.—Exodus 20:3.

  2.   Paid ag addoli eilunod.—Exodus 20:​4-6.

  3.   Paid â defnyddio enw Duw mewn ffordd amharchus.—Exodus 20:7.

  4.   Cadw’r Saboth.—Exodus 20:8-11.

  5.   Anrhydedda dy rieni.—Exodus 20:12.

  6.   Paid â llofruddio.—Exodus 20:13.

  7.   Paid â godinebu.—Exodus 20:14.

  8.   Paid â dwyn.—Exodus 20:15.

  9.   Paid â rhoi tystiolaeth ffals.—Exodus 20:16.

  10.   Paid â chwennych.—Exodus 20:17.

 Pam nad yw pob rhestr o’r Deg Gorchymyn yr un fath?

 Nid yw’r Beibl yn rhifo’r gorchmynion. Felly ceir gwahaniaeth barn ynglŷn â sut y dylid eu trefnu. Mae’r drefn uchod yn un eithaf cyffredin. Ond mae rhai yn rhoi’r Deg Gorchymyn mewn trefn wahanol. Mae’r gwahaniaethau yn effeithio ar drefn y gorchymyn cyntaf, yr ail, a’r olaf. a

 Beth oedd pwrpas y Deg Gorchymyn?

 Roedd y Deg Gorchymyn yn rhan o Gyfraith Moses. Roedd y Gyfraith honno yn cynnwys mwy na 600 o orchmynion a oedd yn diffinio telerau cytundeb neu gyfamod rhwng Duw a chenedl Israel gynt. (Exodus 34:27) Addawodd Duw y byddai pobl Israel yn llwyddo petaen nhw’n cadw Cyfraith Moses. (Deuteronomium 28:1-14) Sut bynnag, prif bwrpas y Gyfraith oedd paratoi pobl Israel ar gyfer dyfodiad y Meseia, neu’r Crist.—Galatiaid 3:24.

 Oes rhaid i Gristnogion gadw’r Deg Gorchymyn?

 Nac oes. Rhoddodd Duw y Gyfraith, gan gynnwys y Deg Gorchymyn, yn benodol i genedl Israel gynt. (Deuteronomium 5:2, 3; Salm 147:19, 20) Nid yw Cristnogion yn gorfod cadw Cyfraith Moses, ac fe gafodd hyd yn oed Cristnogion Iddewig eu ‘rhyddhau o’i rhwymau.’ (Rhufeiniaid 7:6, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) b Cafodd Cyfraith Moses ei disodli gan “Gyfraith Crist,” sy’n cynnwys pob gorchymyn a roddodd Iesu i’w ddisgyblion.—Galatiaid 6:2, BCND; Mathew 28:19, 20.

 A yw’r Deg Gorchymyn yn berthnasol heddiw?

 Ydyn. Mae’r Deg Gorchymyn yn datgelu meddwl Duw, ac felly cawn fudd o’u hastudio. (2 Timotheus 3:16, 17) Maen nhw wedi eu seilio ar egwyddorion dibynadwy sy’n berthnasol i bob oes. (Salm 111:7, 8) Yn wir, mae llawer o’r egwyddorion hyn yn sail i ddysgeidiaeth yr hyn a elwir yn Destament Newydd.—Gweler “ Egwyddorion o’r Deg Gorchymyn sydd i’w gweld yn y Testament Newydd.”

 Dysgodd Iesu fod Cyfraith Moses i gyd, gan gynnwys y Deg Gorchymyn, yn sefyll ar ddau orchymyn sylfaenol. Dywedodd: “‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysica. Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ Mae’r cwbl sydd yn y Gyfraith a’r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.” (Mathew 22:34-40) Felly er nad oes disgwyl i Gristnogion gadw Cyfraith Moses, maen nhw wedi cael gorchymyn i garu Duw a’u cyd-ddynion.—Ioan 13:34; 1 Ioan 4:20, 21.

  Egwyddorion o’r Deg Gorchymyn sydd i’w gweld yn y Testament Newydd

Egwyddor

Cyfeiriad yn y Testament Newydd

Addola Jehofa Dduw yn unig

Datguddiad 22:8, 9

Paid ag addoli eilunod

1 Corinthiaid 10:14

Anrhydedda enw Duw

Mathew 6:9

Addola Dduw yn gyson

Hebreaid 10:24, 25

Anrhydedda dy rieni

Effesiaid 6:1, 2

Paid â llofruddio

1 Ioan 3:15

Paid â godinebu

Hebreaid 13:4

Paid â dwyn

Effesiaid 4:28

Paid â rhoi tystiolaeth ffals

Effesiaid 4:25

Paid â chwennych

Luc 12:15

a Yn draddodiadol, mae’r drefn Iddewig yn “rhoi Ex[odus] xx. 2 fel y ‘gair’ cyntaf, ac yn ystyried adnodau 3-6 i fod yn un, sef yr ail ‘air’.” (The Jewish Encyclopedia) Ar y llaw arall, mae Catholigion yn cyfrif Exodus pennod 20, adnodau 1-6, yn un gorchymyn. O ganlyniad, yr ail orchymyn yw’r ddeddf yn erbyn amharchu enw Duw. Er mwyn cadw’r un nifer o orchmynion, maen nhw’n rhannu’r ddeddf olaf yn erbyn chwennych gwraig cymydog a’i eiddo yn ddwy ddeddf wahanol.

b Yn Rhufeiniaid 7:7, mae Paul yn defnyddio’r degfed gorchymyn fel esiampl o’r “Gyfraith,” gan brofi bod y Deg Gorchymyn yn rhan o Gyfraith Moses.