Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Amlosgi?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Amlosgi?

Ateb y Beibl

 Dydy’r Beibl ddim yn rhoi cyfarwyddyd penodol o ran amlosgi. Nid oes unrhyw orchymyn yn y Beibl ynglŷn â chladdu nac amlosgi’r meirw.

 Mae’r Beibl yn sôn am weision ffyddlon Duw a wnaeth gladdu’r meirw. Er enghraifft, aeth Abraham i drafferth fawr i gael lle i gladdu ei wraig, Sara.​—Genesis 23:​2-​20; 49:29-​32.

 Ond mae’r Beibl yn sôn hefyd am bobl ffyddlon a wnaeth losgi cyrff y meirw. Er enghraifft, pan laddwyd y Brenin Saul a thri o’i feibion mewn rhyfel, cafodd y cyrff eu trin yn amharchus gan y gelyn. Pan glywodd milwyr ffyddlon Israel am hyn, aethon nhw i nôl cyrff Saul a’i feibion, a’u llosgi, gan gladdu’r gweddillion. (1 Samuel 31:​8-​13) Mae’r Beibl yn awgrymu bod ymdrin â’r cyrff fel hyn yn dderbyniol.​—2 Samuel 2:​4-6.

Syniadau anghywir am amlosgi

 Camsyniad: Mae amlosgi yn dangos diffyg parch i’r corff.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn dweud bod y meirw yn mynd yn ôl i’r pridd. Dyna sy’n digwydd yn naturiol wrth i gorff bydru. (Genesis 3:​19) Mae amlosgi yn cyflymu’r broses honno trwy droi’r corff yn lludw, neu yn llwch.

 Camsyniad: Yn adeg y Beibl, dim ond pobl nad oedd yn plesio Duw a oedd yn cael eu llosgi ar ôl iddyn nhw farw.

 Ffaith: Mae’n wir bod cyrff rhai pobl anffyddlon, fel Achan a’i deulu, wedi cael eu llosgi. (Josua 7:​25) Ond eithriad oedd hynny yn hytrach na’r rheol. (Deuteronomium 21:22, 23) Fel rydyn ni wedi nodi, llosgwyd cyrff pobl ffyddlon hefyd, gan gynnwys corff Jonathan, mab y Brenin Saul.

 Camsyniad: Ni all Duw atgyfodi pobl sydd wedi eu hamlosgi.

 Ffaith: O ran atgyfodi’r meirw, nid yw’n gwneud gwahaniaeth i Dduw a yw corff wedi’i gladdu, ei amlosgi, ei golli yn y môr, neu ei fwyta gan anifeiliaid gwyllt. (Datguddiad 20:13) Peth hawdd i’r Hollalluog yw ail-greu corff newydd i’r person.​—1 Corinthiaid 15:35, 38.