Neidio i'r cynnwys

Byw â Salwch Hirdymor—All y Beibl Helpu?

Byw â Salwch Hirdymor—All y Beibl Helpu?

Ateb y Beibl

 Yn sicr. Mae Duw yn gofalu am ei weision sy’n sâl. Wrth gyfeirio at was ffyddlon, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely.” (Salm 41:3) Os ydych chi’n byw â salwch cronig, gall y tri cham canlynol eich helpu i ymdopi:

  1.   Gweddïwch am y nerth i ddal ati. Gallwch chi gael yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi​—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg,” a gall hynny leihau eich pryder a’ch helpu i ddal ati er gwaetha’r anawsterau.​—Philipiaid 4:6, 7.

  2.   Byddwch yn bositif. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae llawenydd yn iechyd i’r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu’r esgyrn.” (Diarhebion 17:22) Gall defnyddio hiwmor helpu, gan ei fod nid yn unig yn gallu codi’r galon ar ddyddiau du, ond hefyd yn dda i’n hiechyd.

  3.   Cryfhewch eich gobaith yn y dyfodol. Gall gobaith cadarn eich helpu chi i lawenhau er gwaethaf salwch cronig. (Rhufeiniaid 12:12) Mae’r Beibl yn sôn am adeg sydd i ddod pan fydd “neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’” (Eseia 33:24) Bryd hynny, bydd Duw yn gwella pob salwch hirdymor sydd y tu hwnt i allu gwyddoniaeth fodern i’w ddatrys. Er enghraifft, mae’r Beibl yn disgrifio’r broses o ddad-wneud effeithiau henaint fel hyn: “Bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!”​—Job 33:25.

 Sylwch: Tra bod Tystion Jehofa yn cydnabod yr help mae Duw yn ei roi, maen nhw hefyd yn chwilio am driniaeth feddygol ar gyfer salwch hirdymor. (Marc 2:17) Ond, dydyn ni ddim yn hybu unrhyw driniaeth feddygol benodol; teimlwn y dylai pob unigolyn wneud ei benderfyniad ei hun ynglŷn â’i iechyd.