Neidio i'r cynnwys

Ydy Duw ym Mhobman, yn Hollbresennol?

Ydy Duw ym Mhobman, yn Hollbresennol?

Ateb y Beibl

 Mae Duw yn gallu gweld popeth a gweithredu yn unrhyw le mae’n dewis. (Diarhebion 15:3; Hebreaid 4:13) Ond, dydy’r Beibl ddim yn dysgu bod Duw yn hollbresennol—hynny ydy, yn bresennol ym mhob man, ym mhob peth. Yn hytrach, mae’n dangos ei fod yn berson a’i fod yn byw mewn man penodol.

  •   Ffurf Duw: Ysbryd ydy Duw. (Ioan 4:24) Mae’n anweledig i fodau dynol. (Ioan 1:18) Mae gweledigaethau o Dduw yn y Beibl wastad yn ei bortreadu mewn man penodol. Does ’na ddim sôn amdano yn bodoli ym mhobman.—Eseia 6:1, 2; Datguddiad 4:2, 3, 8.

  •   Preswylfa Duw: Mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn byw “yn y nefoedd.” (1 Brenhinoedd 8:30) Mae hynny’n golygu bod Duw yn byw yn y byd anweledig, nid ar y ddaear nac o fewn y bydysawd materol. Mae’r Beibl yn sôn am achlysur pan wnaeth yr angylion “sefyll o flaen yr ARGLWYDD,” a sy’n dangos bod Duw, mewn ffordd, yn byw mewn man penodol.—Job 1:6.

Os nad ydy Duw yn hollbresennol, ydy ef yn gallu gofalu amdana i yn bersonol?

 Ydy. Mae gan Dduw ddiddordeb mawr ym mhob unigolyn. Er ei fod yn byw yn y nefoedd, mae Duw yn sylwi ar y rhai ar y ddaear sydd wir eisiau ei blesio, ac mae’n gweithredu ar eu rhan. (1 Brenhinoedd 8:39; 2 Cronicl 16:9) Ystyriwch sut mae Jehofa’n dangos ei gonsýrn am y rhai sy’n ei addoli’n ddiffuant:

  •   Pan ydych chi’n gweddïo: Mae Jehofa yn clywed eich gweddi y foment rydych chi’n ei dweud.—2 Cronicl 18:31.

  •   Pan ydych chi’n isel: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18.

  •   Pan ydych chi angen arweiniad: Bydd Jehofa yn ‘dangos y ffordd i chi, a’ch helpu chi i wybod sut i fyw’ drwy ei Air, y Beibl.—Salm 32:8.

Camsyniadau am hollbresenoldeb

 Camsyniad: Mae Duw yn bresennol ym mhobman yn y greadigaeth.

 Ffaith: Dydy Duw ddim yn byw ar y ddaear nac yn unman arall o fewn y bydysawd materol. (1 Brenhinoedd 8:27) Mae hi’n wir fod y sêr a chreadigaethau eraill yn “dangos ysblander Duw.” (Salm 19:1) Ond, dydy Duw ddim yn byw yn ei greadigaeth, yn union fel nad ydy arlunydd yn byw yn ei ddarluniau. Eto, gall darlun ddatgelu rhywbeth am yr arlunydd wnaeth ei beintio. Mewn ffordd debyg, mae’r byd gweladwy yn dweud llawer wrthon ni am “briodoleddau anweledig” y Creawdwr, fel ei nerth, ei ddoethineb, a’i gariad.—Rhufeiniaid 1:20.

 Camsyniad: Mae’n rhaid fod Duw yn hollbresennol oherwydd ei fod yn hollbwerus ac yn gwybod pob peth.

 Ffaith: Ysbryd glân Duw, neu ei rym gweithredol, yw ei bŵer ar waith. Drwy ei ysbryd glân, gall Duw ddirnad a gwneud unrhyw beth, yn unrhyw le, ar unrhyw bryd, heb fod yn bresennol.—Salm 139:7.

 Camsyniad: Mae Salm 139:8 yn dysgu bod Duw yn hollbresennol drwy ddweud: “Petawn i’n mynd i fyny i’r nefoedd, rwyt ti yno; petawn i’n gorwedd i lawr yn Annwn [y Bedd], dyna ti eto!”

 Ffaith: Dydy’r adnod hon ddim yn sôn am leoliad Duw. Mae’n dysgu mewn ffordd farddonol y gall Duw ein helpu, ni waeth lle rydyn ni.

a Mae ARGLWYDD yn cyfeirio at enw personol Duw, Jehofa, yn y Beibl.