Neidio i'r cynnwys

Pam Dylen Ni Weddïo yn Enw Iesu?

Pam Dylen Ni Weddïo yn Enw Iesu?

Ateb y Beibl

 Mae’n rhaid inni weddïo ar Dduw yn enw Iesu. Dyma’r unig ffordd inni ddod at Dduw y mae ef ei hun wedi ei chymeradwyo. Meddai Iesu: “Fi ydy’r ffordd,” atebodd Iesu, “yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Dywedodd Iesu wrth ei apostolion ffyddlon: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.” (Ioan 16:23, BCND)

Mwy o resymau dros weddïo yn enw Iesu

  •   Anrhydeddwn Iesu a’i Dad, Jehofa Dduw.—Philipiaid 2:9-11.

  •   Dangoswn ein diolchgarwch i Dduw am drefnu inni gael iachawdwriaeth drwy farwolaeth Iesu.—Mathew 20:28; Actau 4:12.

  •   Cydnabyddwn rôl unigryw Iesu sy’n pledio ar ein rhan yn ganolwr rhwng Duw a dyn.—Hebreaid 7:25.

  •   Parchwn wasanaeth Iesu fel Archoffeiriad sydd yn gallu ein helpu i gael enw da gyda Duw.—Hebreaid 4:14-16.