Neidio i'r cynnwys

Ai Gwreiddyn Pob Drwg Yw Arian?

Ai Gwreiddyn Pob Drwg Yw Arian?

Ateb y Beibl

 Nage. Nid yw’r Beibl yn dweud bod arian yn ddrwg, nac yn rhoi bai ar arian am bopeth drwg sy’n digwydd. Dyfyniad anghyflawn a chamarweiniol o’r Beibl yw’r ymadrodd “gwreiddyn pob drwg yw arian.” Beth mae’r Beibl yn ei ddweud, mewn gwirionedd, yw “gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch.” a1 Timotheus 6:10, Beibl Cysegr-lân, ni biau’r pwyslais.

 Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am arian?

 Mae’r Beibl yn cydnabod bod arian, o’i ddefnyddio’n ddoeth, yn gallu bod yn ddefnyddiol, a hyd yn oed yn ein “cadw’n saff.” (Pregethwr 7:12) Mae’r Beibl hefyd yn canmol y rhai sy’n hael gyda’u hadnoddau, ac mae hyn yn cynnwys eu harian.—Diarhebion 11:25.

 Ar yr un pryd, mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni rhag gwneud arian yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Mae’n dweud: “Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi!—byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi.” (Hebreaid 13:5) Y wers yma yw cadw arian yn ei le, a pheidio â mynd ar ôl cyfoeth. Yn lle hynny, dylen ni geisio bod yn fodlon ar yr hyn sydd ei wir angen arnon ni, sef bwyd, dillad, a chartref.—1 Timotheus 6:8.

 Pam mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni rhag caru arian?

 Ni fydd pobl drachwantus yn cael bywyd tragwyddol. (Effesiaid 5:5, BCND) Un rheswm yw bod trachwant yn ffurf ar eilunaddoliaeth. (Colosiaid 3:5) Rheswm arall yw bod tuedd i’r rhai sydd wastad eisiau mwy gefnu ar eu hegwyddorion. Mae Diarhebion 28:20 yn dweud: “Bydd . . . yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi.” Gall hyn ddigwydd oherwydd y mae peryg iddo gael ei demtio i ddefnyddio trais, blacmel, twyll, herwgipio, neu hyd yn oed i lofruddio pobl i gael arian.

 Hyd yn oed os nad ydy cariad tuag at arian yn arwain at bethau mor ofnadwy, mae’n dal yn gallu bod yn niweidiol. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol.”—1 Timotheus 6:9.

 Sut mae cyngor y Beibl ar arian yn ein helpu ni?

 Os nad ydyn ni’n cefnu ar ein gwerthoedd moesol ac ysbrydol er mwyn gwneud arian, byddwn ni’n cadw ein hunan barch a bydd Duw yn parhau i’n cefnogi. I’r rhai sy’n gwneud eu gorau glas i’w blesio, mae Duw yn addo: “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” (Hebreaid 13:5, 6) Dywed hefyd: “Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio’n fawr.”—Diarhebion 28:20.

a Mae’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn dweud: “gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian.”