Neidio i'r cynnwys

Ai Mam Duw Yw Mair?

Ai Mam Duw Yw Mair?

Ateb y Beibl

 Nid yw’r Beibl yn dysgu bod Mair yn fam Duw, ac nid yw’n awgrymu y dylai Cristnogion addoli neu ddwysbarchu Mair. a Ystyriwch:

  •   Ni wnaeth Mair erioed honni ei bod yn fam Duw. Mae’r Beibl yn dweud iddi roi genedigaeth i Fab Duw, nid i Dduw ei hun.—Marc 1:1; Luc 1:32.

  •   Ni wnaeth Iesu Grist erioed ddweud bod Mair yn fam Duw neu ei bod hi’n haeddu parch arbennig. Yn wir, fe gywirodd wraig a roddodd sylw arbennig at y fendith a gafodd Mair drwy fod yn fam iddo, gan ddweud: “Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!”—Luc 11:27, 28.

  •   Nid yw’r termau “Mam Duw” a “Theotocos” (dygiedydd Duw) i’w cael yn y Beibl.

  •   Mae’r ymadrodd “Brenhines y Nefoedd” yn y Beibl yn cyfeirio, nid at Mair, ond at gau dduwies roedd Israeliaid anffyddlon yn ei haddoli. (Jeremeia 44:15-19) Mae’n bosib mai’r dduwies Fabilonaidd Ishtar (Astarte) oedd “Brenhines y Nefoedd.”

  •   Nid oedd y Cristnogion cynnar yn addoli Mair, nac yn ei hanrhydeddu mewn ffordd arbennig. Yn ôl un hanesydd, byddai’r Cristnogion cynnar “wedi gwrthod cyltiau, gan ofni efallai y byddai rhoi gormod o sylw i Mair yn creu’r argraff eu bod yn addoli duwiesau.”—In Quest of the Jewish Mary.

  •   Mae’r Beibl yn dweud bod Duw wedi bod erioed. (Salm 90:1, 2; Eseia 40:28) Gan nad oedd dechreuad i Dduw, ni all neb fod yn fam iddo. Ar ben hynny, ni allai Mair fod wedi cario Duw yn ei chroth; mae’r Beibl yn dweud nad yw hyd yn oed y nefoedd yn ddigon mawr i ddal Duw.—1 Brenhinoedd 8:27.

Mair—Mam Iesu nid “Mam Duw”

 Iddewes oedd Mair. Roedd hi’n ddisgynnydd uniongyrchol i’r Brenin Dafydd. (Luc 3:23-31) Dangosodd Duw ffafr iddi oherwydd ei ffydd a’i duwioldeb. (Luc 1:28) Fe’i dewiswyd gan Dduw i fod yn fam i Iesu. (Luc 1:31, 35) Cafodd Mair a’i gŵr Joseff nifer o blant eraill.—Marc 6:3.

 Mae’r Beibl yn dweud bod Mair yn ddisgybl i Iesu, ond nid yw’n rhoi llawer mwy o wybodaeth amdani.​—Actau 1:14.

a Mae nifer o enwadau yn dysgu bod Mair yn fam Duw. Maen nhw’n cyfeirio ati fel “Brenhines y Nef” neu Theotocos, gair Groeg sy’n golygu “dygiedydd Duw” neu “un sy’n rhoi genedigaeth i Dduw.”