Yn Ôl Luc 21:1-38

  • Dwy geiniog y wraig weddw dlawd (1-4)

  • ARWYDD O BETH SYDD I DDOD (5-36)

    • Rhyfeloedd, daeargrynfeydd mawr, heintiau, prinder bwyd (10, 11)

    • Byddinoedd yn amgylchynu Jerwsalem (20)

    • Amseroedd penodedig y cenhedloedd (24)

    • Mab y dyn yn dod (27)

    • Dameg y goeden ffigys (29-33)

    • Aros yn effro (34-36)

  • Iesu’n dysgu yn y deml (37, 38)

21  Nawr tra oedd yn edrych i fyny, gwelodd y cyfoethog yn rhoi eu rhoddion yn y blychau cyfraniadau.*  Yna fe welodd ef wraig weddw mewn angen yn rhoi dwy geiniog fach o ychydig werth* yn y blwch,  a dywedodd ef: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod y wraig weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall.  Oherwydd gwnaeth y rhain i gyd roi o’u cyfoeth, ond fe wnaeth hi roi, o’i thlodi,* bopeth roedd ganddi i fyw arno.”  Yn hwyrach ymlaen, pan oedd rhai yn siarad am y deml, a sut roedd hi wedi cael ei haddurno â cherrig hardd a rhoddion cysegredig,  dywedodd ef: “Y pethau rydych chi’n eu gweld nawr, bydd dyddiau’n dod pan na fydd carreg yn cael ei gadael ar garreg heb gael ei bwrw i lawr.”  Yna dechreuon nhw ei gwestiynu, gan ddweud: “Athro, pryd bydd y pethau yma’n digwydd, a pha arwydd fydd yn dangos pryd bydd y pethau yma’n digwydd?”  Dywedodd ef: “Gwyliwch nad ydych chi’n cael eich camarwain, oherwydd bydd llawer yn dod ar sail fy enw i, yn dweud, ‘Fi ydy’r Crist,’ ac ‘Mae’r diwedd yn agos.’ Peidiwch â’u dilyn nhw.  Ar ben hynny, pan fyddwch chi’n clywed am ryfeloedd a chynnwrf,* peidiwch â dychryn. Oherwydd mae’n rhaid i’r pethau yma ddigwydd yn gyntaf, ond fydd y diwedd ddim yn digwydd yn syth.” 10  Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. 11  Bydd ’na ddaeargrynfeydd mawr, a phrinder bwyd a heintiau mewn un lle ar ôl y llall; a bydd pobl yn gweld pethau dychrynllyd yn digwydd ac arwyddion mawr o’r nef. 12  “Ond cyn i’r holl bethau yma ddigwydd, bydd pobl yn gafael ynoch chi ac yn eich erlid chi, ac yn eich trosglwyddo chi i’r synagogau a’r carcharau. Byddwch chi’n cael eich llusgo o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13  O ganlyniad, byddwch chi’n gallu rhoi tystiolaeth. 14  Felly, byddwch yn benderfynol o beidio ag ymarfer o flaen llaw sut byddwch chi’n ymateb, 15  oherwydd bydda i’n rhoi geiriau a doethineb ichi na fydd eich holl wrthwynebwyr yn gallu eu gwrthsefyll na’u gwrth-ddweud. 16  Hefyd, byddwch chi’n cael eich bradychu* hyd yn oed gan rieni a brodyr a pherthnasau a ffrindiau, a byddan nhw’n rhoi rhai ohonoch chi i farwolaeth, 17  a byddwch chi’n cael eich casáu gan bawb oherwydd fy enw i. 18  Ond ni fydd hyd yn oed un blewyn o’ch pennau yn cael ei golli. 19  Trwy eich dyfalbarhad byddwch chi’n achub eich bywydau. 20  “Fodd bynnag, pan fyddwch chi’n gweld byddinoedd yn amgylchynu Jerwsalem, byddwch chi’n gwybod bod ei dinistr wedi dod yn agos. 21  Yna mae’n rhaid i’r rhai yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd, a’r rhai sydd ynddi hi ei gadael hi, ac mae’n rhaid i’r rhai sydd yng nghefn gwlad beidio â mynd i mewn iddi hi, 22  oherwydd dyddiau dial* ydy’r rhain er mwyn i’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu gael eu cyflawni. 23  Gwae’r merched* beichiog a’r rhai sy’n magu plant yn y dyddiau hynny! Oherwydd bydd ’na ddioddefaint mawr yn y tir a dicter yn erbyn y bobl yma. 24  A byddan nhw’n cael eu lladd â’r cleddyf ac yn cael eu cymryd yn gaethion a’u harwain i mewn i’r holl genhedloedd; a bydd Jerwsalem yn cael ei sathru gan y cenhedloedd* nes i amseroedd penodedig y cenhedloedd* gael eu cyflawni. 25  “Hefyd, bydd ’na arwyddion yn yr haul a’r lleuad a’r sêr, a bydd cenhedloedd y ddaear yn cynhyrfu’n fawr iawn heb wybod y ffordd allan oherwydd bod y môr yn corddi ac yn rhuo. 26  Bydd pobl yn gwegian oherwydd ofn ac oherwydd eu bod nhw’n disgwyl y pethau a fydd yn dod ar y ddaear, oherwydd bydd grymoedd y nefoedd yn cael eu hysgwyd. 27  Ac yna byddan nhw’n gweld Mab y dyn yn dod mewn cwmwl gyda grym a gogoniant mawr. 28  Ond wrth i’r pethau yma ddechrau digwydd, safwch yn syth a chodwch eich pennau, oherwydd mae eich rhyddhad yn agosáu.” 29  Gyda hynny dywedodd ddameg wrthyn nhw: “Sylwch ar y goeden ffigys a’r holl goed eraill. 30  Pan maen nhw’n deilio, rydych chi’n gweld hyn drostoch chi’ch hunain ac yn gwybod bod yr haf yn agos. 31  Felly chithau hefyd, pan welwch chi’r pethau yma’n digwydd, fe fyddwch chi’n gwybod bod Teyrnas Dduw yn agos. 32  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi na fydd y genhedlaeth hon ar unrhyw gyfri yn mynd heibio nes i bopeth ddigwydd. 33  Bydd nef a daear yn mynd heibio, ond ni fydd fy ngeiriau i ar unrhyw gyfri yn mynd heibio. 34  “Ond gwyliwch eich hunain fel na fydd eich calonnau byth o dan faich oherwydd gorfwyta a goryfed a phryderon bywyd, a’r diwrnod hwnnw’n dod arnoch chi yn sydyn ac yn annisgwyl 35  fel magl. Oherwydd fe fydd yn dod ar bawb sy’n byw ar wyneb yr holl ddaear. 36  Arhoswch yn effro, felly, gan erfyn ar Dduw drwy’r amser er mwyn ichi lwyddo i osgoi’r holl bethau hyn sy’n gorfod digwydd ac i sefyll o flaen Mab y dyn.” 37  Felly yn ystod y dydd byddai Iesu’n dysgu yn y deml, ond fe fyddai’n treulio’r nos ar y mynydd sy’n cael ei alw Mynydd yr Olewydd. 38  A byddai’r holl bobl yn dod ato yn gynnar yn y bore i wrando arno yn y deml.

Troednodiadau

Neu “yng nghistiau’r drysorfa.”
Llyth., “dau lepton.”
Neu “o’i phrinder.”
Neu “gwrthryfeloedd.”
Neu “trosglwyddo.”
Neu “gweinyddu cyfiawnder.”
Neu “y menywod.”
Neu “Cenedl-ddynion.”
Neu “Cenedl-ddynion.”