Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 1

Rhinweddau Jehofa

Rhinweddau Jehofa

(Datguddiad 4:11)

  1. 1. Jehofa ein Duw, Creawdwr pob dim,

    Tydi biau’r nerth, y gogoniant, a’r grym.

    Dy greadigaeth, am byth gwnaiff barhau.

    Moliannu dy ddirfawr nerth y mae.

  2. 2. Cyfiawnder sy’n sail i’th fawr orsedd di.

    Di-feth yw dy farn. Digyfnewid wyt ti.

    Doethineb d’Air sy’n datgelu i ni

    Ddirnadaeth ddi-drai d’athrylith di.

  3. 3. Mae pob anrheg dda yn dod o dy law.

    Tydi, cariad wyt. Gennyt ti, cariad gawn.

    Mae’n hawdd i foli dy fawredd a’th fri—

    Unigryw a hollol wych wyt ti!

(Gweler hefyd Salm 36:9; 145:6-13; Preg. 3:14; Iago 1:17.)