Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Reoli Pryder

Sut i Reoli Pryder

 Mae pryderu’n ormodol yn gallu eich niweidio’n gorfforol ac yn emosiynol. Gall hyd yn oed arwain at broblemau mwy na’r broblem oeddech chi’n poeni amdani yn y lle cyntaf.

Awgrymiadau i leihau pryder

  •  Peidiwch â gwylio, darllen neu wrando ar ormod o newyddion negyddol. Does dim rhaid ichi wybod pob manylyn am ryw greisis. Bydd gormod o adroddiadau dychrynllyd dim ond yn gwaethygu eich teimladau o ofn ac anobaith.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae iselder ysbryd yn sychu’r esgyrn.”—Diarhebion 17:22.

     “Mae’n ddigon hawdd mynd yn gaeth i’r newyddion syfrdanol diweddaraf, ond dydy hynny ddim yn beth iach. Dw i’n pryderu llawer llai pan fydda i’n gwylio llai o newyddion.”—John.

     Rhywbeth i’w ystyried: Pa mor aml ydych chi wir angen gwybod y newyddion diweddaraf?

  •  Cadwch at rwtîn. Ceisiwch ddeffro, bwyta, gwneud gwaith tŷ a mynd i gysgu ar yr un amser bob dydd. Bydd cael rwtîn yn eich helpu i gadw rhyw fath o normalrwydd yn eich bywyd ac yn eich helpu i leihau eich pryderon.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.”—Diarhebion 21:5.

     “Pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, wnes i esgeuluso fy rwtîn gan dreulio gormod o amser ar adloniant. O’n i eisiau gwneud defnydd gwell o fy amser, felly wnes i amserlen i ofalu am fy nghyfrifoldebau bob dydd.”—Joseph.

     Rhywbeth i’w ystyried: Oes gynnoch chi rwtîn sy’n eich helpu i deimlo ar ddiwedd bob dydd eich bod chi wedi gwneud rhywbeth gwerth chweil?

  •  Canolbwyntiwch ar y pethau positif. Os ydych chi’n meddwl yn aml am beth allech chi fod wedi ei wneud yn wahanol yn y gorffennol, ac am y pethau drwg a allai digwydd yn y dyfodol, bydd hyn ond yn ychwanegu at eich pryder. Yn hytrach, meddyliwch am ddau neu dri pheth gallwch chi fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

     Egwyddor o’r Beibl: “Byddwch yn ddiolchgar.”—Colosiaid 3:15.

     “Mae darllen y Beibl yn fy helpu i osgoi newyddion negyddol ac i ganolbwyntio ar bethau positif yn eu lle. Efallai bod hynny’n swnio’n rhy syml, ond mae’n gweithio!”—Lisa.

     Rhywbeth i’w ystyried: Ydych chi’n tueddu i hel meddyliau am y pethau negatif yn eich bywyd a chau allan y positif?

  •  Meddyliwch am eraill. Yn hytrach na chadw ar wahân—sydd mor hawdd gwneud os ydych chi wedi cael eich llethu gan bryder—meddyliwch am sut gallwch chi helpu eraill mewn angen.

     Egwyddor o’r Beibl: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:4.

     “Mae gwneud pethau ar gyfer pobl eraill yn fy ngwneud i’n hapus. Dw i’n gwneud rhywbeth sy’n codi eu calonnau nhw, ac ar yr un pryd dw i’n lleihau fy mhryderon i. A dweud y gwir, does gen i ddim amser ar ôl i bryderu.”—Maria.

     Rhywbeth i’w ystyried: O’r bobl rydych chi’n eu hadnabod, pa rai sydd angen help ychwanegol, a beth allwch chi ei wneud i’w helpu?

  •  Cadwch yn iach. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael digon o ymarfer corff a gorffwys. Bwytewch fwydydd iach. Gall cymryd gofal o’ch iechyd corfforol wneud ichi deimlo’n fwy gobeithiol a’ch helpu i beidio â phryderu.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae ymarfer corff yn beth da.”—1 Timotheus 4:8.

     “Alla i a fy mab ddim gwneud gymaint o ymarfer corff a fydden ni’n hoffi, felly ’dyn ni wedi gwneud ymarfer corff dan do yn rhan o’n rwtîn gartref. Mae hyn wedi gwneud i ni’n hunain deimlo’n hapusach a hyd yn oed ein gwneud ni’n fwy amyneddgar â’n gilydd.”—Catherine.

     Rhywbeth i’w ystyried: Ydych chi angen bwyta bwyd iachach a gwneud mwy o ymarfer corff?

 Yn ogystal â rhoi’r awgrymiadau hyn ar waith i leihau pryder, mae llawer o bobl wedi elwa ar ddysgu am addewidion dibynadwy’r Beibl am ddyfodol gwell. Gweler yr erthygl “Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?