Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Saith Allwedd i Ddiogelwch Bwyd a Deiet Iach

Saith Allwedd i Ddiogelwch Bwyd a Deiet Iach

 Pam mae’ch deiet yn bwysig

 Mae eich iechyd yn dibynnu, yn rhannol, ar beth rydych chi’n ei fwyta. Os ydych chi’n rhoi sylw i ddiogelwch bwyd a deiet iach, gallwch wella eich iechyd. I’r gwrthwyneb, gall paratoi bwyd mewn ffordd beryglus neu fwyta bwyd sydd ddim yn dda inni arwain at broblemau iechyd difrifol, yn debyg i sut mae rhoi tanwydd o ansawdd isel yn ein ceir yn achosi problemau. Efallai na fyddan nhw’n ymddangos yn syth, ond fe fyddan nhw’n dod.—Galatiaid 6:7.

 Dywed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) “fod pob gwlad yn y byd yn cael ei heffeithio gan un ffurf neu fwy o gamfaethiad”—term sy’n cynnwys nid yn unig diffyg maeth, ond hefyd bod dros bwysau a gordewdra. Mae bwyta neu yfed bwydydd neu ddiodydd sydd ddim yn iach yn aml yn cynyddu’r risg o glefyd y galon, strôc, diabetes, a chanser. Yn ôl un astudiaeth, bu farw o leiaf 11 miliwn o bobl o achos maeth gwael mewn un flwyddyn yn ddiweddar. Mae WHO yn amcangyfrif bod bwyd sydd wedi ei halogi yn lladd mwy na mil o bobl bob dydd ac yn arwain at broblemau iechyd i gannoedd o filiynau.

 Mae’r Beibl yn ein hannog i gymryd y pethau hyn o ddifri. Mae’r Beibl yn dysgu mai Duw “ydy’r ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Mae bywyd yn rhodd, ac rydyn ni’n dangos gwerthfawrogiad amdano drwy ofalu am ein hiechyd ni a iechyd ein teuluoedd. Ystyriwch sut gallwch chi wneud hynny.

 Pedair allwedd i ddiogelwch bwyd

 1. Paratowch fwyd yn ddiogel.

 Pam? Gall germau a yn bwyd a diod sydd wedi eu halogi fynd i mewn i’ch corff a’ch gwneud chi’n sâl.

 Mae arbenigwyr iechyd yn awgrymu:

  •   Cyn ichi baratoi bwyd, golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr.  b Rhwbiwch eich dwylo gyda’i gilydd am o leiaf 20 eiliad. Sgrwbiwch gefnau eich dwylo yn ogystal â rhwng eich bysedd ac o dan eich ewinedd. Rinsiwch a sychwch eich dwylo yn iawn.

  •   Defnyddiwch sebon a dŵr i olchi byrddau torri, llestri, ac unrhyw beth arall sy’n cyffwrdd â bwyd. Yn ogystal, osgowch ddefnyddio’r un bwrdd torri ar gyfer bwyd sydd am gael ei goginio a bwyd sydd ddim.

  •   Golchwch ffrwythau a llysiau, a’u diheintio nhw hefyd os ydych chi’n byw mewn ardal lle gallai cnydau gael eu dyfrio gyda dŵr sydd wedi ei halogi â charthion.

 2. Gwahanwch fwyd amrwd a bwyd sydd wedi ei goginio.

 Pam? Bydd germau o fwyd amrwd fel cig a’i suddion yn halogi bwydydd eraill.

 Mae arbenigwyr iechyd yn awgrymu:

  •   Cadwch yr holl fwydydd amrwd—yn enwedig cig—ar wahân i fwydydd sydd wedi eu coginio wrth ichi ddod â nhw adref o’r siop a’u storio nhw.

  •   Ar ôl torri cig amrwd, golchwch eich dwylo, y gyllell, a’r bwrdd torri yn dda cyn torri unrhyw fwyd arall.

 3. Gwnewch yn siŵr fod bwyd sydd angen ei goginio wedi ei goginio digon.

 Pam? Mae germau niweidiol ond yn cael eu lladd pan fydd y bwyd yn cyrraedd tymheredd digon uchel.

 Mae arbenigwyr iechyd yn awgrymu:

  •   Coginiwch fwyd nes ei fod yn dwym iawn. Mae’n rhaid i ganol bwyd, gan gynnwys darnau o gig, gyrraedd 70 gradd Celsius (160°F) am o leiaf 30 eiliad.

  •   Mae’n rhaid i gawl a lobsgows gael eu berwi.

  •   Er mwyn bwyta bwyd sydd wedi ei goginio o’r blaen, rhaid ei ail dwymo nes ei fod yn boeth a stêm yn codi oddi arno.

 4. Cadwch fwyd ar dymheredd diogel.

 Pam? Pan fydd bwyd yn cael ei storio rhwng 5 a 60 gradd Celsius (40–140°F) am 20 munud yn unig, gall nifer y bacteria ynddo ddyblu. Hefyd, os dydy cig amrwd ddim yn cael ei storio ar dymereddau diogel, gall rhai bacteria gynhyrchu tocsinau sydd ddim yn cael eu dinistrio wrth goginio.

 Mae arbenigwyr iechyd yn awgrymu:

  •   Cadwch fwyd yn boeth neu’n oer, nid yn llugoer, i arafu neu atal germau rhag lluosogi.

  •   Peidiwch â gadael i fwyd sefyll ar dymheredd yr ystafell am fwy na dwy awr, neu am fwy nag un awr os ydy tymheredd yr ystafell dros 32 gradd Celsius (90°F).

  •   Ar ôl iddo gael ei goginio, cadwch fwyd yn dwym nes iddo gael ei weini.

 Tair allwedd i fwyta’n iach

 1. Bwytewch amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd.

 Mae ffrwythau a llysiau yn rhoi inni fitaminau, mwynau, ac elfennau eraill sy’n angenrheidiol i iechyd da. Dywed WHO fod eich corff angen o leiaf pum darn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Dydy hyn ddim yn cynnwys gwreiddlysiau startshlyd, fel tatws neu gasafa.

 2. Peidiwch â bwyta gormod o fraster ac olew.

 Mae WHO yn awgrymu peidio â bwyta gormod o fwyd wedi ei ffrïo, ei brosesu, neu sydd wedi ei bobi ar raddfa fasnachol, sy’n aml yn cynnwys braster sydd ddim yn iach. Os yw’n bosib, coginiwch ag olew llysiau annirlawn. c Mae’r fath hon o olew yn well na rhai sydd â lefel uchel o fraster dirlawn.

 3. Peidiwch â bwyta gormod o halen a siwgr.

 Mae WHO yn awgrymu na ddylai oedolion gael mwy nag un llwy de o halen bob dydd. Mae WHO hefyd yn awgrymu peidio â chael mwy na 60 mililitr (12 llwy de wastad) o siwgr rhydd bob dydd. d Siwgr ydy un o brif gynhwysion llawer o fwyd a diod wedi eu prosesu. Er enghraifft, mae diod ysgafn gyffredin 355 mililitr (12 fl oz) yn cynnwys hyd at 50 mililitr (10 llwy de) o siwgr. Er bod gan ddiodydd ysgafn lawer o galorïau, dydyn nhw ddim yn faethlon.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.” (Diarhebion 22:3) Os ydych chi’n ddoeth o ran eich arferion bwyta ac yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol, rydych chi’n dangos i Dduw eich bod yn trysori eich bywyd a’ch iechyd.

 Camsyniadau cyffredin

 Camsyniad: Mae bwyd yn saff i’w fwyta os yw’n edrych, arogli, ac yn blasu’n iawn.

 Ffaith: Mae angen dros 10 biliwn bacteria i wneud un litr (1 qt) o ddŵr edrych yn niwlog, ond gall cyn lleied â 15 i 20 bacteria peryglus eich gwneud chi’n sâl. Er mwyn gwneud yn siŵr bod eich bwyd a diod yn saff, dilynwch yr awgrymiadau ynglŷn â thymheredd ac amser wrth ichi eu paratoi, eu gweini, a’u storio.

 Camsyniad: Dydy pryfed ddim yn gwneud niwed i fwyd.

 Ffaith: O ganlyniad i fwyta budreddi a charthion ac atgenhedlu ynddyn nhw, yn aml mae pryfed yn cludo, ar eu traed, filiynau o germau sy’n achosi clefydau. Gorchuddiwch fwyd sy’n barod i’w fwyta er mwyn ei warchod rhag cael ei halogi gan bryfed.

 Camsyniad: “Dwi wedi cael deiet gwael ers talwm felly fydd newid fy arferion bwyta ddim yn helpu fi bellach.”

 Ffaith: Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod bwyta’n fwy iach nawr yn lleihau eich risg o farw’n gynnar, ac yn arwain at fwy o fanteision wrth ichi ddal ati.

a Mae germau, neu ficro-organebau, yn bethau byw sydd mor fychain fedrwch chi ddim eu gweld nhw gyda’ch llygad noeth. Maen nhw’n cynnwys bacteria, parasitiaid, a firysau. Mae rhai micro-organebau yn gwneud lles, ond gall rhai niweidiol ein brifo neu hyd yn oed ein lladd.

b Mae sebon a dŵr yn cael gwared ar fwy o germau na dŵr yn unig.

c Mae braster annirlawn yn hylif, nid yn solet, ar dymheredd ystafell.

d Mae siwgr rhydd yn cynnwys siwgrau wedi eu prosesu neu eu dwysáu, fel siwgr bwrdd, mêl, surop, a sudd ffrwythau. Dydy’r term ddim yn cynnwys y siwgr naturiol sydd i’w gael mewn ffrwythau ffres, llysiau, a llaeth.