Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Thomas Jackson/​Stone via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Gobaith ar Gyfer 2024​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Gobaith ar Gyfer 2024​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Wrth feddwl am y problemau sy’n wynebu’r byd yn 2024, mae llawer yn digalonni’n llwyr. Ond mae gobaith ar gael ar gyfer y dyfodol. Ymhle?

Mae’r Beibl yn rhoi gobaith inni

 Mae’r Beibl yn addo y bydd Duw yn datrys y problemau sy’n gwneud inni anobeithio heddiw. Yn fuan, bydd Duw “yn sychu pob deigryn [o’n] llygaid [ni], ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.”​—Datguddiad 21:4.

Sut mae’r Beibl yn gallu eich helpu chi heddiw?

 Mae’r gobaith yn y Beibl ar gyfer y dyfodol yn gallu eich helpu chi i beidio ag anobeithio ac i deimlo’n fwy positif. (Rhufeiniaid 15:13) Mae’r cyngor ymarferol yn y Beibl hefyd yn gallu eich helpu chi i ddelio â phroblemau fel tlodi, anghyfiawnder, ac afiechyd.

 Gwnewch 2024 yn flwyddyn dda i chi a’ch teulu. Dysgwch fwy am sut mae’r Beibl yn gallu eich helpu. Rhowch gynnig ar ein cwrs astudio’r Beibl am ddim, a gwelwch sut mae Duw yn gallu rhoi tawelwch meddwl ichi heddiw yn ogystal â “dyfodol llawn gobaith.”​—Jeremeia 29:11.