Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

FPG/The Image Bank via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Gwleidyddion yn Rhybuddio am Armagedon—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Gwleidyddion yn Rhybuddio am Armagedon—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar fore Llun, Hydref 10, 2022, gwnaeth Rwsia ddial ar Wcráin ar ôl ffrwydrad enfawr a ddigwyddodd ddeuddydd ynghynt a difetha pont bwysig a oedd yn cysylltu Crimea â Rwsia. Digwyddodd hyn i gyd ar ôl i wleidyddion rybuddio ein bod ni’n wynebu Armagedon.

  •   “Dydyn ni heb fod mor agos at Armagedon ers adeg [Arlywydd yr UDA John F.] Kennedy a’r argyfwng taflegrau Ciwba. . . . Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn bosib defnyddio arfau niwclear heb achosi Armagedon.”—Arlywydd yr UDA Joe Biden, Hydref 6, 2022.

  •   “Dw i’n cytuno ein bod ni’n wynebu Armagedon, mae’r blaned gyfan mewn peryg.”—Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky, yn sôn am ganlyniadau defnyddio arfau niwclear, Newyddion BBC, Hydref 8, 2022.

 A fydd defnyddio arfau niwclear yn arwain at Armagedon? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

A fydd arfau niwclear yn achosi Armagedon?

 Na fyddan. Mae’r gair “Armagedon” ond yn ymddangos unwaith yn y Beibl, yn Datguddiad 16:16. Dydy’r gair hwnnw ddim yn cyfeirio at ryfel rhwng cenhedloedd, ond rhyfel rhwng Duw a ‘brenhinoedd y ddaear gyfan.’ (Datguddiad 16:14) Bydd Duw yn defnyddio rhyfel Armagedon i chwalu teyrnasoedd y byd.—Daniel 2:44.

 I ddysgu mwy am beth mae Armagedon yn ei olygu i’r ddaear, darllenwch yr erthygl Beth yw Rhyfel Armagedon?

A fydd y ddaear a’r bobl arni yn cael eu dinistrio gan ryfel niwclear?

 Na fyddan. Efallai bydd rheolwyr ar y ddaear yn defnyddio arfau niwclear yn y dyfodol, ond er hynny, fydd Duw ddim yn gadael i’r ddaear gael ei dinistrio. Mae’r Beibl yn dweud:

  •   “Mae’r ddaear yn aros am byth.”—Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  •   “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.

 Gan ddweud hynny, mae proffwydoliaethau’r Beibl, yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd heddiw, yn dangos ein bod ni ar fin cyrraedd trobwynt mawr yn hanes y byd. (Mathew 24:3-7; 2 Timotheus 3:1-5) Dysgwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol yn ein cwrs rhyngweithiol am y Beibl sy’n rhad ac am ddim.