Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH WYLIADWRUS!

Saethu Mewn Ysgolion—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Saethu Mewn Ysgolion—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar Fai 24, 2022, digwyddodd drasiedi ofnadwy yn nhref fechan Uvalde, Texas, UDA. Yn ôl y New York Times, “fe wnaeth saethwr ladd 19 o blant a dau athro . . . yn Robb Elementary School.”

 Yn drist iawn, mae pethau erchyll o’r fath yn digwydd yn rhy aml. Yn ôl USA Today, yn yr Unol Daleithiau’n unig “roedd ’na 249 o saethiadau mewn ysgolion y llynedd—mwy nag unrhyw flwyddyn arall ers o leiaf 1970.”

 Pam mae’r pethau dychrynllyd hyn yn digwydd? Sut gallwn ni ymdopi â gweithredoedd mor ddrwg? Oes ’na unrhyw obaith y bydd y trais yn dod i ben? Mae’r Beibl yn rhoi’r atebion.

Pam mae’r byd yn troi’n fwy treisgar?

 Mae llawer o bobl yn meddwl, ‘Pam dydy Duw ddim yn stopio pethau ofnadwy fel saethu mewn ysgolion rhag digwydd?’ I weld ateb y Beibl, darllenwch yr erthygl “Bad Things Happen to Good People—Why?

Sut gallwn ni ymdopi â drygioni o’r fath?

  •    “Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.”—Rhufeiniaid 15:4.

 Gall egwyddorion y Beibl eich helpu chi i ymdopi â’r byd treisgar hwn. Gwelwch y cylchgrawn Deffrwch! sy’n dwyn y teitl “Will Violence Ever End?” am fwy o wybodaeth.

 Am awgrymiadau ar sut gall rhieni helpu eu plant i ymdopi ag adroddiadau newyddion sy’n codi ofn, darllenwch yr erthygl “Disturbing News Reports and Your Children.”

A fydd y trais yn dod i ben?

  •    “Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:14.

  •    “Byddan nhw’n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Micha 4:3.

 Bydd Duw yn gwneud yr hyn dydy pobl ddim yn gallu ei wneud. Bydd ei Deyrnas lywodraethol yn y nef yn dinistrio’r holl arfau ac yn dod â’r holl drais i ben. I ddysgu mwy am beth bydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni, darllenwch yr erthygl “Under God’s Kingdom ‘Peace Will Abound.’