Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Seliau Hynafol—Beth Oedden Nhw?

Seliau Hynafol—Beth Oedden Nhw?

 Gwrthrychau bach wedi eu hengrafu oedd seliau a ddefnyddid i wneud argraff, gan amlaf ar glai neu gŵyr. Ceir seliau o siapiau gwahanol, gan gynnwys conau, sgwariau, silindrau, a hyd yn oed pennau anifeiliaid. Gallai argraffiadau sêl ddangos perchenogaeth neu ddilysu dogfennau. Gellid eu defnyddio i gau bagiau, drysau neu hyd yn oed mynedfeydd i feddau.

Sêl ar ffurf silindr sy’n dangos Dareius I, brenin Persia yn hela, ac argraff y sêl ar glai

 Roedd seliau yn cael eu gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau caled, gan gynnwys asgwrn, calchfaen, metel, carreg led-werthfawr, a phren. Weithiau byddai enwau’r perchennog a’i dad yn cael eu harysgrifio ar y sêl. Mae rhai seliau yn dangos teitl y perchennog.

 Er mwyn dilysu dogfen, byddai perchennog y sêl yn gwasgu’r mowld i mewn i glai, cwyr, neu ryw ddeunydd meddal arall ar flaen y ddogfen. (Job 38:14) Byddai’r deunydd yn caledu a diogelu’r ddogfen.

Gellid Defnyddio Seliau i Ddirprwyo Awdurdod

 Roedd perchennog sêl yn gallu ei rhoi i rywun arall er mwyn trosglwyddo awdurdod iddo. Ceir un esiampl o hyn yn hanes Pharo yn yr hen Aifft a’r Hebrëwr Joseff, mab y patriarch Jacob. Roedd Joseff wedi bod yn gaethwas yn yr Aifft. Yn ddiweddarach, cafodd ei garcharu ar gam. Ond ymhen amser, fe wnaeth Pharo ei ryddhau a’i wneud yn brif weinidog. Mae’r Beibl yn dweud: “Tynnodd [Pharo] ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a’i rhoi hi ar fys Joseff.” (Genesis 41:42) Roedd y sêl-fodrwy yn rhoi’r awdurdod i Joseff i wneud ei waith pwysig.

 Defnyddiodd y Frenhines Jesebel sêl ei gŵr i hyrwyddo ei chynllun i lofruddio dyn dieuog o’r enw Naboth. Ysgrifennodd lythyrau at rai arweinwyr yn enw’r Brenin Ahab, gan ofyn iddyn nhw gyhuddo Naboth o felltithio Duw. Rhoddodd Jesebel sêl y brenin ar y llythyrau a llwyddodd ei chynllwyn.—1 Brenhinoedd 21:5-14.

 Roedd Ahasferus, brenin Persia, yn defnyddio sêl-fodrwy i ddilysu ei orchmynion swyddogol.—Esther 3:10, 12.

 Yn ei lyfr yn y Beibl, mae Nehemeia’n dweud bod Lefiaid, offeiriad, ac arweinwyr yn Israel wedi dangos eu bod nhw’n cytuno â thelerau dogfen ysgrifenedig drwy roi eu seliau arni.—Nehemeia 1:1; 9:38.

 Mae’r Beibl yn sôn am ddau achlysur pan ddefnyddiwyd seliau i gau mynedfa. Pan daflwyd y proffwyd Daniel i ffau’r llewod ar orchymyn Dareius, brenin Persia, “cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma’r brenin yn gosod ei sêl arni gyda’i fodrwy, a’i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel.”—Daniel 6:17.

 Pan roddwyd corff Iesu Grist yn y bedd, mae’r Beibl yn dweud bod ei elynion wedi “gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd.” (Mathew 27:66) Yn ôl esboniad Beiblaidd ar lyfr Mathew gan David L. Turner, os selio swyddogol gan yr awdurdodau ymerodrol oedd hyn, “byddai’r sêl wedi’i gwneud o glai neu gŵyr a’i gwasgu i mewn i’r hollt rhwng y garreg a’r fynedfa i’r bedd.”

 Gan fod seliau hynafol yn taflu goleuni ar y gorffennol, maen nhw o ddiddordeb mawr i archaeolegwyr a haneswyr. Yn wir, mae selyddiaeth, sef yr astudiaeth o seliau, wedi dod yn faes astudio pwysig.