Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tywydd Eithafol—All y Beibl Eich Helpu i Ymdopi?

Tywydd Eithafol—All y Beibl Eich Helpu i Ymdopi?

 Mae tywydd eithafol wedi effeithio ar filiynau o bobl. Ydych chi’n un ohonyn nhw? Mae corwyntoedd, teiffwnau, a seiclonau wedi achosi difrod mawr, yn ogystal â llifogydd. Mae glaw trwm yn gallu achosi tirlithriadau, a gall mellt ddechrau tanau gwyllt. Gall hyd yn oed sychder, tywydd poeth, a stormydd gaeafol gael effaith ofnadwy.

 Mewn llawer o wledydd, mae tywydd eithafol yn achosi mwy a mwy o ddifrod, a hynny yn amlach nag erioed o’r blaen. Dywedodd yr International Federation of Red Cross and Red Crescent Societies: “Mae trychinebau naturiol yn effeithio ar fwy a mwy o bobl bob blwyddyn, oherwydd bod ’na fwy o lifogydd, stormydd, a chyfnodau o sychder. O ganlyniad, mae mwy o bobl yn marw, mae eraill yn ei chael hi’n anodd ennill bywoliaeth, ac mae miliynau yn gorfod ffoi o’u cartrefi.”

 Mae’r pethau hyn yn gwneud i bobl ddioddef, nid yn unig yn gorfforol ond hefyd yn emosiynol. Gall colli eiddo neu gartref fod yn ergyd fawr ynddo’i hun, heb sôn am golli anwylyn.

 Os ydych chi wedi dioddef oherwydd tywydd eithafol, gall y Beibl roi cysur, gobaith, a chyngor ymarferol ichi. Mae’r Beibl eisoes wedi helpu llawer o bobl eraill sydd wedi dioddef rhywbeth tebyg, ac mae’n gallu eich helpu chithau i ymdopi hefyd. (Rhufeiniaid 15:4) Mae hefyd yn ateb cwestiwn mawr sy’n pwyso’n drwm ar feddwl llawer o bobl: Pam gwnaeth Duw adael i hyn ddigwydd—ydy Duw yn fy nghosbi?

Dydy’r tywydd eithafol rydyn ni’n ei weld heddiw ddim yn gosb oddi wrth Dduw

 Mae’r Beibl yn dweud yn glir mai nid Duw sy’n gyfrifol am ein dioddefaint. Fel mae Galarnad 3:33 yn dweud: “Dydy [Duw] ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef nac achosi poen i bobl.” Felly yn amlwg, nid Duw sy’n achosi’r tywydd eithafol sy’n taro’r byd heddiw.

 Er bod y Beibl yn sôn am adegau pan ddefnyddiodd Duw y tywydd i gosbi pobl ddrwg, dydy hynny ddim byd tebyg i beth sy’n digwydd heddiw. Mae trychinebau naturiol heddiw yn dod heb rybudd ac yn effeithio ar bobl dda a drwg. Ond fel rydyn ni’n gweld yn y Beibl, roedd Duw wastad yn amddiffyn pobl dda, yn rhoi rhybudd o flaen llaw, ac yn esbonio ei benderfyniad. Er enghraifft, yn adeg Noa, esboniodd Duw pam roedd ef am anfon Dilyw. Rhoddodd ddigon o rybudd i bobl, a chadwodd Noa a’i deulu’n ddiogel.​—Genesis 6:13; 2 Pedr 2:5.

 Mae ’na fwy o resymau i gredu fod trychinebau naturiol ddim yn gosb gan Dduw. I ddysgu mwy, gwelwch yr erthygl “Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?

Mae Duw yn teimlo dros y rhai sydd wedi dioddef trychineb naturiol

 Mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa a Dduw yn teimlo dros bobl ac yn gofalu amdanyn nhw. Mae hynny’n amlwg o’r adnodau canlynol.

  •   Eseia 63:9: “Pan oedden nhw’n diodde roedd [Duw yn] diodde hefyd.”

     Ystyr: Mae’n brifo Jehofa i weld pobl yn dioddef.

  •   1 Pedr 5:7: “Mae e’n gofalu amdanoch chi.”

     Ystyr: Rydych chi’n bwysig i Jehofa.

 Gan fod Jehofa yn ein caru ni gymaint, mae ef eisiau ein helpu. Mae’n rhoi cysur a chyngor ymarferol yn y Beibl, yn ogystal â gobaith cadarn am ddyfodol lle fydd ’na ddim trychinebau naturiol.​—2 Corinthiaid 1:3, 4.

Adeg pan fydd tywydd eithafol ddim yn broblem

 Mae Jehofa wedi addo yn y Beibl i roi “dyfodol llawn gobaith i chi.” (Jeremeia 29:11) Mae ef eisiau i bobl fwynhau bywyd mewn paradwys ar y ddaear, heb orfod poeni am y tywydd.—Genesis 1:28; 2:15; Eseia 32:18.

 Sut bydd hynny’n digwydd? Bydd Duw yn defnyddio ei Deyrnas, sef llywodraeth yn y nef o dan reolaeth Iesu. (Mathew 6:10) Mae gan Iesu’r doethineb a’r grym i reoli’r tywydd a stopio trychinebau. Profodd hynny tra oedd ar y ddaear. (Marc 4:37-41) Bydd Iesu’n rheoli droston ni mewn ffordd ddoeth ac yn ein dysgu ni sut i ofalu am y ddaear a chyd-fyw â’r natur o’n cwmpas. (Eseia 11:2) Bryd hynny, fydd neb yn cael ei frifo gan dywydd eithafol byth eto.

 Efallai byddwch chi’n gofyn, ‘Pryd bydd Iesu yn dechrau rheoli’r tywydd?’ Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, gwelwch yr erthygl “Pryd Daw Teyrnas Dduw i Reoli’r Ddaear?

Delio â thywydd eithafol heddiw

 Gall cyngor y Beibl eich helpu chi cyn, yn ystod, ac ar ôl cyfnodau o dywydd eithafol.

  •   Cyn: Byddwch yn barod i weithredu’n sydyn.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.”—Diarhebion 22:3.

     Ystyr: Meddyliwch o flaen llaw am y math o drychinebau all effeithio ar eich ardal fel byddwch chi’n gallu gweithredu’n sydyn i amddiffyn eich teulu.

     Profiad: “Ar y diwrnod pan oedd rhaid inni ffoi oherwydd y tân, roedden ni’n barod. Roedd bagiau argyfwng gynnon ni, gyda meddyginiaeth a dillad. Roedd pawb o’n cwmpas ni ar goll am beth i’w wneud. Ond am ein bod ni wedi paratoi ers meitin, roedd gynnon ni bopeth oedden ni angen, a dw i mor ddiolchgar am hynny!”—Tamara, Califfornia, UDA.

  •   Yn ystod: Canolbwyntiwch ar y pethau pwysicaf.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy’n rhoi bywyd go iawn i chi.”—Luc 12:15.

     Ystyr: Mae bywyd yn bwysicach nag eiddo.

     Profiad: “Pan wnaeth Teiffŵn Lawin b chwalu ein tŷ, o’n i’n methu meddwl yn glir. Doedd gen i ddim clem beth i’w wneud. Ond mi wnes i weddïo’n daer ar Jehofa. Mi wnes i sylweddoli ein bod ni ond wedi colli ein heiddo, nid ein bywydau.”—Leslie, Ynysoedd y Philipinau.

  •   Ar ôl: Cymerwch un dydd ar y tro.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.”—Mathew 6:34.

     Ystyr: Peidiwch â phoeni’n ormodol am broblemau’r dyfodol.

     Profiad: “Cafodd fy nhŷ ei daro gan lifogydd oherwydd Corwynt Irma. Roedd gen i fwy o benderfyniadau i’w gwneud nag erioed, ac yn teimlo bod popeth yn ormod imi. Mi wnes i ddilyn cyngor y Beibl a chymryd un dydd ar y tro. Sylweddolais mod i’n gallu ymdopi â llawer mwy nag oeddwn i’n dychmygu, gyda help Jehofa.”—Sally, Fflorida, UDA.

 Am fwy o awgrymiadau ymarferol, gwelwch yr erthygl “When Disaster Strikes—Steps That Can Save Lives.”

a Jehofa yw enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

b Hefyd yn cael ei alw’n Teiffŵn Haima.