Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Bocs Bach Sy’n Dosbarthu Bwyd Ysbrydol

Bocs Bach Sy’n Dosbarthu Bwyd Ysbrydol

MEDI 1, 2020

 Mae Tystion Jehofa yn derbyn mwy o fwyd ysbrydol ar ffurf ddigidol nag erioed o’r blaen. Ond mewn sawl rhan o’r byd, mae cael mynediad i’r We yn rhy ddrud i’n brodyr. Mae eraill yn byw mewn ardaloedd lle mae’r cysylltiad â’r We yn torri’n aml, yn araf, neu ddim yn bodoli o gwbl.

 Er hynny, mae nifer o’n brodyr a’n chwiorydd nawr yn medru lawrlwytho cyhoeddiadau digidol hyd yn oed heb gysylltiad â’r We! Sut mae hyn yn bosib?

 Pecyn bach yw JW Box sy’n cael ei roi i gynulleidfaoedd lle mae mynediad i’r We yn gyfyngedig. Mae’n cynnwys llwybrydd a brynwyd oddi wrth gwmni masnachol, meddalwedd a ddatblygwyd gan yr Adran Gyfrifiaduron yn y Bethel, a chyhoeddiadau digidol a fideos oddi ar jw.org. Mae gan bob bocs gost o tua $75 UDA.

 Mewn Neuadd y Deyrnas, mae brodyr a chwiorydd yn cysylltu’n ddi-wifr â’r JW Box ar eu dyfeisiau symudol ac yna’n lawrlwytho cyhoeddiadau a fideos. Gall hyd yn oed dyfeisiau sy’n hen neu’n rhad gysylltu. Ond os nad oes gan gynulleidfa gysylltiad â’r We, sut mae diweddaru JW Box? Mae’r gangen yn anfon ffon USB yn rheolaidd, sy’n costio tua $4 UDA. Mae’r ffon yn llawn cynnwys newydd o jw.org sy’n gallu cael ei lwytho i JW Box.

 Sut mae JW Box wedi helpu ein brodyr? Mae Nathan Adruandra, tad sy’n dod o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, yn esbonio: “Roeddwn i’n trio am oes i lawrlwytho’r dramâu ‘O Jehofa, Ynot Ti yr Wyf yn Ymddiried’ a Cofiwch Wraig Lot. Ond wnes i fethu bob tro, a roedd hynny’n digalonni fi. Nawr mae modd lawrlwytho’r fideos i fy ffôn, a mae hynny’n helpu ni rieni i ddysgu’n plant yn well.”

 Dywed brawd sy’n helpu cynulleidfaoedd yn Nigeria i osod JW Box: “Mae’r brodyr yn gweld JW Box fel anrheg arbennig gan Jehofa. Maen nhw wrth eu boddau oherwydd mae hi mor hawdd lawrlwytho cyhoeddiadau a fideos o’r Bocs Tŵls Dysgu.”

 Mae dros 1,700 pecyn wedi eu hanfon i’n brodyr yn Affrica, De America, ac Ynysoedd y De, ac mae cynlluniau ar y gweill i’w hanfon at lawer o gynulleidfaoedd eraill. Sut mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu? Gan gyfraniadau i’r gwaith byd-eang, a llawer ohonyn nhw drwy donate.dan124.com. Diolch am eich cefnogaeth hael.