Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Darparu Cymorth i Rai Sydd Wedi Dioddef Trychinebau

Darparu Cymorth i Rai Sydd Wedi Dioddef Trychinebau

CHWEFROR 1, 2021

 Yn 2020 gwelon ni nifer o drychinebau naturiol a’r pandemig COVID-19 yn dechrau lledaenu drwy’r byd. Sut mae Tystion Jehofa wedi helpu’r rhai sydd wedi dioddef?

 Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020, a gwnaeth Pwyllgor y Cydlynwyr o dan arweiniad y Corff Llywodraethol gymeradwyo gwario 28 miliwn o ddoleri b ar gymorth ar ôl trychinebau. Gwnaeth hyn helpu ar ôl mwy na 200 o drychinebau—gan gynnwys y pandemig COVID-19, sawl storm drofannol, llifogydd yn Affrica, prinder bwyd yn Feneswela, a sychder yn Simbabwe. Gwnaeth y cyfraniadau ariannol helpu i dalu am fwyd, dŵr, lloches, dillad, a gofal meddygol, yn ogystal â deunydd ar gyfer glanhau, trwsio, ac ailadeiladu. Ystyriwch rai esiamplau o’r gwaith sydd wedi mynd ymlaen.

 COVID-19. Cafodd y pandemig effaith gorfforol, emosiynol, ac economaidd ar ein brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd. Er mwyn helpu, cafodd dros 800 o Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb (DRC) eu sefydlu yn fyd-eang. Gwnaeth y pwyllgorau hyn gofnodi anghenion ein brodyr ac anfon adroddiadau i Bwyllgor y Cydlynwyr er mwyn iddyn nhw benderfynu sut i roi cymorth.

 Drwy’r flwyddyn, gwnaeth y DRC helpu llawer i gael bwyd, dŵr, pethau er mwyn cadw’n lân, a meddyginiaeth. Mewn rhai ardaloedd, gwnaeth y DRC weithio gyda henuriaid lleol i helpu brodyr i dderbyn cymorth gan y llywodraeth.

 Mae rhai nad yw’n Dystion wedi sylwi ar ein gwaith o roi cymorth. Er enghraifft, gwnaeth Field Simwinga, comisiynydd ar gyfer yr ardal Nakonde, Sambia, ddweud wrth ein brodyr: “Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar ichi am ddarparu cymorth amserol i deuluoedd mewn gwir angen.”

 Prinder Bwyd yn Angola. Oherwydd y pandemig COVID-19, roedd ’na lai o fwyd yn Angola a chododd y pris yn fawr. Daeth yn anoddach i’n brodyr a’n chwiorydd brynu bwyd.

Cafodd pecynnau bwyd eu hanfon o Frasil i Angola

 Trefnodd y gangen ym Mrasil i anfon pecynnau bwyd i’n brodyr yn Angola. Gwnaeth y brodyr ymchwil ofalus er mwyn gwneud defnydd doeth o arian, a chafodd y bwyd ei swmp-brynu. O ganlyniad, roedd yn costio dim ond $22 ar gyfartaledd i brynu a chludo pob pecyn a oedd yn cynnwys bron i 20 cilogram (44 lb) o fwyd fel reis, ffa, ac olew coginio. Hyd yn hyn, mae 33,544 o becynnau wedi eu cludo—cyfanswm o 654 tunnell fetrig. Gwnaeth hyn, ynghyd â bwydydd lleol, helpu i fwydo mwy na 50,000 o bobl!

 Sut mae ein brodyr yn teimlo am y cymorth hwn? Mae Alexandre, sy’n byw yn ardal anghysbell o Angola, yn dweud: “I fi, mae hwn yn dangos bod Jehofa yn fy ngharu i, a dw i ddim ar ben fy hun. Dw i’n gwybod bod cyfundrefn Jehofa yn gofalu amdana i!” Dywedodd Mariza, sy’n fam sengl: “Gwnaeth Jehofa glywed fy ngweddi. Dw i’n diolch iddo, a’i gyfundrefn!”

Frodyr yn Angola yn ddiolchgar am y cymorth

 Cymorth ar ôl Sychder yn Simbabwe. Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020, roedd ’na sychder ofnadwy yn Simbabwe, ac felly profodd miliynau o bobl newyn difrifol gan gynnwys miloedd o’n brodyr.

 Cafodd pump DRC eu sefydlu i roi bwyd i’n brodyr. Gwnaeth cannoedd o gyhoeddwyr helpu drwy pacio bwyd, llwytho nwyddau, neu roi benthyg o’u cerbydau. c Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020, cafodd $691,561 eu gwario i fwydo mwy na 22,700 o bobl!

Brodyr yn Simbabwe yn derbyn bwyd (cyn y pandemig)

 Mewn rhai achosion, roedd y brodyr wedi defnyddio eu holl fwyd erbyn i’r cymorth gyrraedd. Pan gyrhaeddodd y bwyd, gwnaeth ein brodyr foli Jehofa. Gwnaeth rhai hyd yn oed ddechrau canu caneuon y Deyrnas.

 Mewn un ardal, aeth dwy chwaer weddw i gyfarfod yn y gymuned a oedd yn trafod bwyd roedd sefydliad anllywodraethol (NGO) yn ei ddarparu. Ond trodd y cyfarfod yn wleidyddol, felly penderfynodd y chwiorydd na allen nhw dderbyn yr amodau i gael y bwyd. Wrth iddyn nhw adael y cyfarfod, gwnaeth eraill chwerthin ar eu pennau a dweud, “Paid â dod aton ni i ofyn am fwyd!” Ond, ar ôl pythefnos yn unig, daeth ein brodyr i’r ardal a rhoi bwyd i’n chwiorydd—ymhell cyn i’r NGO gyrraedd!

“Mae Jehofa wastad yn gofalu am ei weision,” meddai Prisca

 Mae cymorth ar ôl trychineb wedi rhoi tystiolaeth dda yn Simbabwe. Er enghraifft, ystyriwch brofiad Prisca, sy’n byw mewn pentref bach. Er gwaetha’r problemau a achoswyd gan y sychder, treuliodd Prisca bob dydd Mercher a Gwener ar y weinidogaeth, er ei bod hi’n amser i droi’r tir. Roedd pobl yn ei phentref yn siarad yn gas iddi, gan ddweud: “Bydd dy deulu yn llwgu oherwydd dy bregethu.” Ateb Prisca oedd: “Mae Jehofa wastad yn gofalu am ei weision.” Yn fuan ar ôl hynny, derbyniodd hi nwyddau gan ein cyfundrefn. Gwnaeth hyn argraff dda ar ei chymdogion, a dywedon nhw: “Mae Duw wastad wedi gofalu amdanat ti, felly rydyn ni eisiau dysgu mwy amdano.” Mae saith o’i chymdogion nawr yn gwrando ar gyfarfodydd y gynulleidfa ar y radio.

 Wrth inni agosáu at y diwedd, byddwn ni’n parhau i wynebu trychinebau naturiol. (Mathew 24:3, 7) Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr eich cyfraniadau hael sy’n cael eu rhoi drwy’r gwahanol ddulliau ar donate.dan124.com. Maen nhw’n darparu cymorth amserol ac effeithiol.

a Mae blwyddyn wasanaeth 2020 yn dechrau ym mis Medi 2019 ac yn gorffen ym mis Awst 2020.

b Cyfeirir at ddoleri’r UDA yn yr erthygl hon.

c Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig COVID-19, roedd rhaid i’n brodyr gael caniatâd i gludo bwyd. Roedden nhw hefyd yn ofalus iawn i leihau’r risg o ddal y feirws.