Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Defnyddio’r Hyn Sydd Dros Ben i Gyflenwi Diffyg

Defnyddio’r Hyn Sydd Dros Ben i Gyflenwi Diffyg

HYDREF 1, 2020

 Mae Tystion Jehofa yn cyflawni gwaith pwysig er mwyn helpu pobl mewn dros 200 o wledydd. Ond dim ond tua 35 o’r gwledydd hynny sy’n derbyn digon o gyfraniadau lleol i dalu am eu costau eu hunain. Sut mae gofalu am y costau yng ngwledydd sy’n llai cyfoethog?

 Mae’r Corff Llywodraethol yn pwyso a mesur anghenion ysbrydol a gweithgareddau Tystion Jehofa ar draws y byd. Mae cyllideb yn cael ei chreu er mwyn defnyddio arian mewn ffordd ddoeth. Pan fydd arian dros ben ar ôl gofalu am weithgareddau lleol, mae cangen yn rhoi’r gweddill i wledydd heb ddigon. Mae’r trefniad hwn yn dilyn patrwm y Cristnogion cynnar a oedd yn helpu ei gilydd fel bod “pawb yn gyfartal.” (2 Corinthiaid 8:14) Defnyddion nhw’r hyn oedd dros ben i gyflenwi diffyg Cristnogion eraill.

 Sut mae’n brodyr sydd wedi derbyn cymorth ariannol oddi wrth ganghennau eraill yn teimlo? Yn Tansanïa, er enghraifft, lle mae dros hanner y boblogaeth yn byw ar lai na dwy bunt y dydd, cafodd arian a dderbyniwyd oddi wrth ganghennau eraill ei ddefnyddio i adnewyddu Neuadd y Deyrnas y Gynulleidfa Mafinga. Ysgrifennodd y gynulleidfa: “Ers i’r neuadd gael ei hadnewyddu, mae yna lawer mwy o bobl yn ein cyfarfodydd! Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i gyfundrefn Jehofa ac i’r frawdoliaeth fyd-eang am eu haelioni, sydd wedi ein galluogi i gael addoldy mor brydferth.”

 Mae rhai o’n brodyr yn Sri Lanca wedi dioddef prinder bwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae Imara Fernando a’i mab ifanc Enosh yn eu mysg. Ond, diolch i gyfraniadau o wledydd eraill, maen nhw wedi derbyn cymorth angenrheidiol. Mewn cerdyn y gwnaed â llaw, ysgrifennon nhw: “Rydyn ni’n diolch ichi frodyr am ddangos cariad aton ni yn ystod yr amserau anodd hyn. Mae’n ein gwneud ni’n hapus iawn i fod yn rhan o’r teulu hwn, a ’dyn ni’n gweddïo y bydd Jehofa yn helpu pob un o’n brodyr yn ystod y dyddiau diwethaf.”

Imara ac Enosh Fernando

 Ni waeth lle mae ein brodyr a chwiorydd yn byw, maen nhw eisiau rhannu beth sydd ganddyn nhw. Er enghraifft, creodd Enosh flwch cyfraniadau bach personol er mwyn iddo ef gyfrannu at deuluoedd mewn angen. Mae Guadalupe Álvarez yn dangos yr un agwedd hael. Mae hi’n byw yn rhan o Mecsico lle mae dim ond ychydig yn ennill yr isafswm cyflog, neu’n cael unrhyw incwm rheolaidd o gwbl. Eto, mae hi’n cyfrannu beth mae hi’n gallu. Mae hi’n ysgrifennu: “Dw i’n ddiolchgar i Jehofa am ei ddaioni a’i gariad ffyddlon. Dw i’n gwybod bydd fy nghyfraniadau, ynghyd â chyfraniadau eraill, yn ddefnyddiol i fy mrodyr mewn angen.”

 Mae swyddfeydd Cangen yn hapus i anfon arian i lefydd mewn angen. “Am lawer o flynyddoedd, mae’r gwaith yn ein gwlad wedi dibynnu ar gefnogaeth ariannol o wledydd eraill,” meddai Anthony Carvalho, sy’n gwasanaethu ar Bwyllgor y Gangen ym Mrasil. “Oherwydd y gefnogaeth hon, gwelon ni dyfiant anhygoel. Erbyn hyn, mae ein sefyllfa ariannol wedi newid, ac mae gynnon ni’r fraint o helpu eraill. Mae ein brodyr yn gweld y gwaith pregethu byd-eang ac yn edrych am ffyrdd i helpu fel disgyblion hunanaberthol Iesu.”

 Beth ydy’r ffordd orau i Dystion Jehofa gefnogi eu brodyr a’u chwiorydd mewn angen? Nid drwy anfon arian yn syth i swyddfeydd Cangen mewn gwledydd eraill, ond drwy gyfrannu at y gwaith byd-eang. Gall hyn gael ei wneud drwy flwch cyfraniadau y gynulleidfa sydd wedi ei labelu “Gwaith Byd-Eang” neu drwy donate.dan124.com. Gwerthfawrogwn bob cyfraniad yn fawr iawn.