Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 2

Sut i Fod yn Ostyngedig

Sut i Fod yn Ostyngedig

BETH YW GOSTYNGEIDDRWYDD?

Mae pobl ostyngedig yn bobl barchus. Dydyn nhw ddim yn ffroenuchel, nac yn disgwyl i eraill eu trin fel rhywun pwysig. Yn hytrach, mae person gostyngedig yn dangos diddordeb diffuant mewn pobl eraill ac yn fodlon dysgu oddi wrthyn nhw.

Weithiau, mae pobl yn meddwl bod gostyngeiddrwydd yn wendid. Ond mewn gwirionedd, mae’n gryfder sy’n helpu pobl i gydnabod eu gwendidau a’u cyfyngiadau.

PWYSIGRWYDD GOSTYNGEIDDRWYDD

  • Mae gostyngeiddrwydd yn gwella ein perthynas ag eraill. Yn ôl y llyfr The Narcissism Epidemic: “Fel arfer, mae pobl ostyngedig yn ei chael hi’n haws gwneud ffrindiau,” yn ogystal â “chyfathrebu a chymdeithasu â phobl eraill.”

  • Mae gostyngeiddrwydd yn gwella dyfodol eich plentyn. Bydd dysgu bod yn ostyngedig yn helpu eich plentyn nawr ac yn y dyfodol, er enghraifft wrth geisio gwaith. “Mae person ifanc sy’n meddwl gormod ohono’i hun, heb gydnabod ei wendidau, yn annhebygol o wneud yn dda mewn cyfweliad am swydd,” ysgrifennodd Dr Leonard Sax. “Ond mae person ifanc sydd wir eisiau clywed barn y cyfwelydd yn fwy tebygol o gael y swydd.” *

SUT I DDYSGU GOSTYNGEIDDRWYDD

Helpwch eich plentyn i beidio â meddwl gormod ohono’i hun.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n rhywun, dych chi’n twyllo’ch hunain—dych chi’n neb mewn gwirionedd.”—Galatiaid 6:3.

  • Osgowch ymadroddion diystyr. Mae dywediadau fel “Daw dy holl freuddwydion yn wir” a “Cei di wneud beth bynnag rwyt ti eisiau” yn gallu sbarduno plentyn, ond yn aml dydyn nhw ddim yn dod yn wir. Mae’ch plant yn fwy tebygol o lwyddo drwy osod nod rhesymol a gweithio’n galed i’w gyrraedd.

  • Canmolwch weithredoedd penodol. Nid yw dweud wrth blentyn ‘ti’n wych’ yn meithrin gostyngeiddrwydd. Byddwch yn benodol.

  • Rhwystrwch orddefnydd o gyfryngau cymdeithasol. Ar gyfryngau cymdeithasol, mae pobl yn aml yn brolio am eu doniau a’r hyn maen nhw wedi ei wneud, sy’n gwbl groes i ostyngeiddrwydd.

  • Anogwch eich plentyn i fod yn gyflym i ymddiheuro. Helpwch eich plentyn i gydnabod ei fai a’i deall.

Anogwch eich plant i fod yn ddiolchgar.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Byddwch yn ddiolchgar.”—Colosiaid 3:15.

  • Gwerthfawrogi’r greadigaeth. Dylai plant werthfawrogi natur, a chymaint y dibynnwn arni am fywyd. Rydyn ni angen aer i’w anadlu, dŵr i’w yfed, a bwyd i’w fwyta. Defnyddiwch yr esiamplau hyn i helpu eich plant i edmygu rhyfeddodau byd natur a’u gwerthfawrogi.

  • Gwerthfawrogi pobl. Atgoffwch eich plentyn fod pawb yn well nag ef mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac y gall ddysgu oddi wrthyn nhw yn hytrach na chenfigennu eu sgiliau a’u galluoedd.

  • Mynegi diolchgarwch. Dysgwch eich plant i ddiolch yn ddiffuant, yn hytrach na dweud geiriau gwag. Mae agwedd ddiolchgar yn hanfodol er mwyn aros yn ostyngedig.

Dysgwch eich plentyn fod gwasanaethu eraill yn beth da.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:3, 4.

  • Disgwyliwch i’ch plentyn wneud gwaith tŷ. Gall esgusodi eich plentyn rhag gorfod gwneud gwaith tŷ achosi iddo feddwl ‘Dw i’n rhy bwysig i wneud hyn!’ Dylai dyletswyddau teuluol ddod yn gyntaf, ac amser chwarae wedyn. Esboniwch iddo gymaint y bydd eraill yn elwa ar ei waith ac yn ei werthfawrogi a’i barchu amdano.

  • Pwysleisiwch fod gwasanaethu eraill yn fraint. Mae gwasanaethu eraill yn ffordd wych o ddatblygu aeddfedrwydd. Felly, anogwch eich plentyn i fod yn effro i anghenion pobl eraill. Yna, trafodwch sut y gallai ef eu helpu. Canmolwch a chefnogwch eich plentyn wrth iddo wasanaethu eraill.

^ Par. 8 O’r llyfr The Collapse of Parenting.