Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwasanaethu o’u Gwirfodd

Gwasanaethu o’u Gwirfodd

YMHLITH y Tystion selog ar draws y byd, mae llawer o chwiorydd sengl yn gwasanaethu lle mae angen mwy o gyhoeddwyr. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn gwasanaethu dramor am ddegawdau. Beth a’u helpodd nhw, flynyddoedd yn ôl, i symud i wlad dramor? Beth maen nhw wedi ei ddysgu o wasanaethu dramor? Pa brofiadau maen nhw wedi eu cael? Gwnaethon ni gyfweld â rhai o’r chwiorydd profiadol hyn. Os wyt ti’n chwaer sengl sy’n awyddus iawn i ehangu dy weinidogaeth, rydyn ni’n sicr y byddi di’n cael budd o’u sylwadau nhw. Mewn gwirionedd, gall pob un o bobl Dduw ddysgu o’u hesiampl.

TRECHU AMHEUON

Anita

Wyt ti’n amau na fyddi di’n gallu llwyddo fel arloeswraig sengl mewn gwlad arall? Roedd gan Anita, sydd bellach yn ei 70au canol, amheuon mawr am ei galluoedd. Fe’i magwyd yn Lloegr a dechreuodd arloesi pan oedd hi’n 18 mlwydd oed. “Ro’n i’n mwynhau dysgu eraill am Jehofa,” meddai, “ond doeddwn i byth wedi dychmygu y gallwn i wasanaethu dramor. Doeddwn i erioed wedi astudio iaith arall ac roeddwn i’n sicr na fedrwn i ddysgu. Felly, pan ges i wahoddiad i fynychu ysgol Gilead, roeddwn i wedi synnu. Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai rhywun mor gyffredin â minnau yn cael gwahoddiad o’r fath. Ond meddyliais, ‘Os ydy Jehofa yn meddwl y galla’ i lwyddo, mi wna i drio.’ Roedd hynny dros 50 mlynedd yn ôl. Ers hynny, rydw i wedi bod yn cenhadu yn Japan.” Mae Anita yn ychwanegu: “Ar adegau, wrth wincio, rydw i’n dweud wrth chwiorydd ifanc, ‘Rho dy fag ar dy gefn a thyrd gyda mi ar yr antur orau erioed!’ Braf yw cael dweud bod llawer wedi gwneud hynny.”

MAGU HYDER

Ar y cychwyn, roedd llawer o chwiorydd sydd wedi gwasanaethu dramor yn petruso ynghylch symud i wlad estron. Sut gwnaethon nhw fagu’r hyder?

Maureen

“Wrth dyfu i fyny, roeddwn i eisiau byw bywyd a fyddai’n helpu eraill,” meddai Maureen, sydd bellach yn ei 60au canol. Yn 20 oed, dyma hi’n symud i Quebec, Canada, lle roedd angen mwy o arloeswyr. “Yn ddiweddarach, cefais wahoddiad i ysgol Gilead, ond roeddwn i’n poeni am fynd i rywle diarth heb fy ffrindiau. Roeddwn i hefyd yn poeni am adael fy mam a hithau’n gofalu am fy nhad a oedd yn sâl. Bob nos, roeddwn yn fy nagrau yn gweddïo ar Jehofa am y pethau hyn. Pan siaradais â’m rhieni, gwnaethon nhw fy annog i dderbyn y gwahoddiad. Gwelais hefyd y gynulleidfa yn gofalu am fy rhieni. Roedd hynny yn fy helpu i gredu y byddai Jehofa yn edrych ar fy ôl i hefyd. Yna, roeddwn yn barod i fynd!” Yn cychwyn ym 1979, gwasanaethai Maureen fel cenhades yng Ngorllewin Affrica am dros 30 mlynedd. Heddiw, tra ei bod hi’n gofalu am ei mam yng Nghanada, mae Maureen yn gwasanaethu fel arloeswraig arbennig. Wrth edrych yn ôl ar ei blynyddoedd yn gwasanaethu dramor, mae hi’n dweud: “Roedd Jehofa’n wastad yn darparu’r hyn roedd ei angen arna’ i, a hynny yn ei bryd.”

Wendy

Dechreuodd Wendy, sydd yn ei 60au canol, arloesi yn Awstralia pan oedd hi yn ei harddegau. Mae hi’n cofio: “Roeddwn i’n swil iawn ac yn ei chael hi’n anodd sgwrsio â phobl ddiarth. Ond, drwy arloesi, dysgais sut i sgwrsio â phobl, a dros amser, doedd diffyg hyder ddim yn broblem. Oherwydd arloesi, dysgais i ddibynnu ar Jehofa, a dechreuais deimlo’n fwy cyfforddus â’r syniad o wasanaethu dramor. Hefyd, cefais wahoddiad gan chwaer sengl a oedd wedi bod yn gwasanaethu fel cenhades yn Japan am dros 30 mlynedd i fynd i bregethu yno am dri mis. Ar ôl gweithio gyda hi, roeddwn ar dân am gael symud i wlad arall.” Yng nghanol y 1980au, symudodd Wendy i Fanwatw, ynys fechan tua 1,100 milltir i’r dwyrain o Awstralia.

A hithau’n dal yn byw yn Fanwatw, mae Wendy yn gwasanaethu mewn swyddfa gyfieithu. “Y llawenydd mwyaf i mi yw gweld grwpiau a chynulleidfaoedd yn cael eu sefydlu mewn ardaloedd anghysbell,” meddai. “Nid oes unrhyw eiriau i ddisgrifio’r fraint o gael rhan yng ngwaith Jehofa yn yr ynysoedd hyn.”

Kumiko (canol)

Roedd Kumiko, sydd bellach yn ei 60au canol, yn arloesi’n llawn amser yn Japan pan awgrymodd ei phartner arloesi y dylen nhw symud i Nepal. “Roedd hi’n gofyn dro ar ôl tro, ond roeddwn i’n wastad yn dweud na,” meddai Kumiko. “Roeddwn i’n poeni am orfod dysgu iaith newydd ac addasu i amgylchiadau gwahanol. Problem arall oedd hel yr arian a oedd ei angen ar gyfer symud i wlad arall. Tra oeddwn i’n pendroni dros y pethau hyn, ges i ddamwain ar fy motobeic ac roedd yn rhaid imi fynd i’r ysbyty. Yno, meddyliais: ‘Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd imi nesaf? Efallai bydda’ i’n cael afiechyd difrifol a cholli’r cyfle i wasanaethu dramor. A alla’ i wasanaethu dramor am flwyddyn o leiaf?’ Gweddïais yn daer ar Jehofa am iddo fy helpu i weithredu.” Ar ôl iddi adael yr ysbyty, aeth Kumiko i ymweld â Nepal, ac yn ddiweddarach, symudodd hi a’i phartner arloesi yno.

Wrth edrych yn ôl dros bron i 10 mlynedd o wasanaeth yn Nepal, dywed Kumiko: “Gwnaeth y problemau roeddwn i’n poeni amdanyn nhw hollti o’m blaen fel y Môr Coch. Dw i mor hapus fy mod i wedi penderfynu gwasanaethu lle mae mwy o angen. Yn aml, pan ydw i’n trafod neges y Beibl ag un teulu, mae pump neu chwech o’r cymdogion yn dod draw i wrando. Mae hyd yn oed plant bach yn gofyn yn barchus am daflen sy’n trafod y Beibl. Pleser mawr yw pregethu yn y diriogaeth ffrwythlon hon.”

AMBELL HER

Nid yw’n syndod fod y chwiorydd dewr y gwnaethon ni gyfweld â nhw wedi wynebu ambell her. Beth oedd eu hymateb?

Diane

“Ar y cychwyn, roedd yn anodd bod mor bell i ffwrdd o’r teulu,” meddai Diane, o Ganada. A hithau bellach yn ei 60au cynnar, mae wedi bod yn gwasanaethu fel cenhades yn y Traeth Ifori am 20 mlynedd. “Gofynnais i Jehofa fy helpu i garu’r bobl yn fy aseiniad. Eglurodd un o’m hathrawon yn Gilead, y Brawd Jack Redford, y byddai amgylchiadau ein haseiniad efallai yn ysgytwad inni, yn enwedig wrth weld y tlodi enbyd. Ond dywedodd: ‘Peidiwch ag edrych ar y tlodi. Edrychwch ar y bobl, ar eu hwynebau a’u llygaid. Gwyliwch eu hymateb wrth glywed gwirionedd y Beibl.’ Dyna beth wnes i, ac roedd yn fendith fawr! Pan oeddwn i’n rhannu neges gysurus y Deyrnas, roedd eu llygaid yn disgleirio!” Beth arall a helpodd Diane i ddod i arfer â gwasanaethu dramor? “Gwnes i agosáu at y bobl roeddwn i’n astudio gyda nhw a theimlais lawenydd mawr o’u gweld nhw’n troi’n weision ffyddlon i Jehofa. Dechreuais deimlo’n gartrefol yn fy aseiniad. Cefais famau a thadau a brodyr a chwiorydd ysbrydol, yn union fel y gwnaeth Iesu ei addo.”—Marc 10:29, 30.

Mae Anne, sydd bellach yn ei 40au canol, yn gwasanaethu yn Asia mewn gwlad lle mae cyfyngiadau ar ein gwaith. Mae’n dweud: “Wrth wasanaethu mewn gwahanol lefydd dros y blynyddoedd, dw i wedi byw gyda chwiorydd sydd â chefndiroedd a phersonoliaethau gwahanol i mi. Ar adegau, mae hynny wedi achosi inni gam-ddeall ein gilydd ac i deimladau gael eu brifo. Pan ddigwyddodd hynny, gwnes i ymdrech i agosáu atyn nhw, i ddeall eu diwylliant yn well. Gwnes i hefyd drio bod yn fwy cariadus tuag atyn nhw ac yn fwy rhesymol. Dw i’n falch fod yr ymdrechion hynny wedi dwyn ffrwyth ac wedi fy helpu i gael ffrindiau da a wnaeth fy helpu i aros yn fy aseiniad.”

Ute

Ym 1993, cafodd Ute, sydd bellach yn ei 50au cynnar, ei haseinio o’r Almaen i Madagasgar i fod yn genhades. Mae’n dweud: “Ar y dechrau, roeddwn i’n cael trafferth yn dysgu’r iaith leol, i addasu i’r tywydd clòs, ac i ymdopi â malaria, amoebau, a llyngyr parasitig. Ond cefais lawer o help. Gwnaeth y chwiorydd lleol, eu plant, ac astudiaethau Beiblaidd fy helpu i feistroli’r iaith. Roedd fy mhartner cenhadu yn gofalu amdana’ i pan oeddwn i’n sâl. Ond yn fwy na neb arall, gwnaeth Jehofa fy helpu. Gwnes i fwrw fy mol wrtho yn rheolaidd. Wedyn gwnes i aros yn amyneddgar—weithiau am ddyddiau, weithiau am fisoedd—am iddo ateb fy ngweddïau. Gwnaeth Jehofa ddatrys pob problem.” Bellach, mae Ute wedi bod yn gwasanaethu ym Madagasgar am 23 o flynyddoedd.

BENDITHION LU

Mae chwiorydd sengl sy’n byw mewn gwledydd estron yn dweud yn aml fod y profiad wedi cyfoethogi eu bywydau. Pa fendithion a gawson nhw?

Heidi

Symudodd Heidi, sydd bellach yn ei 70au cynnar, o’r Almaen i’r Traeth Ifori fel cenhades ym 1968. “Y peth rydw i wedi ei fwynhau fwyaf,” meddai, “yw gweld fy mhlant ysbrydol ‘yn byw’n ffyddlon i’r gwir.’ Mae rhai o’r bobl gwnes i astudio gyda nhw bellach yn arloeswyr ac yn henuriaid. Mam neu Nain y mae llawer ohonyn nhw’n fy ngalw. Mae un o’r henuriaid hynny gan gynnwys ei wraig a’i blant yn fy ystyried yn rhan o’r teulu. Felly, mae Jehofa wedi rhoi imi fab, merch-yng-nghyfraith, a thri o wyrion.”—3 Ioan 4.

Karen (canol)

Gwnaeth Karen, sy’n dod o Ganada ac sydd bellach yn ei 70au cynnar, wasanaethu yng Ngorllewin Affrica am dros 20 mlynedd. Mae’n dweud: “Drwy fod yn genhades, dw i wedi dysgu i fod yn fwy hunanaberthol, cariadus, ac amyneddgar. Hefyd, mae cydweithio â phobl o nifer o wahanol wledydd wedi fy helpu i fod yn feddwl agored. Dysgais fod mwy nag un ffordd o wneud pethau. A braint fawr yw cael ffrindiau o bob cwr o’r byd! Er bod ein bywydau a’n haseiniadau wedi newid, mae ein cyfeillgarwch wedi parhau.”

Gwnaeth Margaret o Loegr, ac sydd yn ei 70au hwyr, wasanaethu fel cenhades yn Laos. Dywedodd hi: “Mae gwasanaethu dramor wedi caniatáu imi weld â’m llygaid fy hun sut mae Jehofa yn denu pobl o bob hil a chefndir at ei gyfundrefn. Gwnaeth y profiad hwnnw gryfhau fy ffydd. Mae gen i bob hyder fod Jehofa yn arwain ei gyfundrefn a bod ei bwrpas am gael ei wireddu.”

Yn wir, mae chwiorydd sengl sy’n gwasanaethu dramor wedi gosod esiampl arbennig o wasanaeth Cristnogol. Dylen ni gofio am eu haberth a’u canmol nhw. (Barn. 11:40) Ar ben hynny, mae eu niferoedd yn cynyddu. (Salm 68:11) A fedri di wneud newidiadau er mwyn dilyn ôl traed y chwiorydd ffyddlon a gyfwelwyd ar gyfer yr erthygl hon? Os wyt ti’n gwneud hynny, yn sicr fe gei di brofi drosot ti dy hun “mor dda ydy’r ARGLWYDD!”—Salm 34:8.