Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Gwir am Dduw a Christ

Y Gwir am Dduw a Christ

Er bod pobl yn addoli llawer o dduwiau, dim ond un sy’n bodoli go iawn. (Ioan 17:3) Ef yw’r “Duw Goruchaf,” Creawdwr popeth a Ffynhonnell bywyd. Ef yn unig sy’n deilwng o’n haddoliad.—Daniel 7:18; Datguddiad 4:11.

Pwy Yw Duw? Beth Yw Enw Duw?

Nifer o weithiau mae enw Duw yn ymddangos yn y testun gwreiddiol TUA 7,000

JEHOFA Enw Duw

DUW ARGLWYDD TAD—Rhai o deitlau Jehofa

Dywedodd Duw ei hun: “Myfi yw JEHOFAH.” (Exodus 6:2, Beibl Cysegr-lân) Er bod enw Duw yn y Beibl tua 7,000 o weithiau, mae llawer o gyfieithiadau yn defnyddio teitlau fel “Arglwydd,” lle yn gywir, dylai enw Duw ymddangos. Mae Duw eisiau ichi fod yn ffrind iddo, felly mae’n eich annog i ‘alw ar ei enw!’—Salm 105:1.

Teitlau Jehofa. Mae’r Beibl yn cyfeirio at Jehofa gan ddefnyddio teitlau fel “Duw,” “Hollalluog,” “Creawdwr,” “Tad,” “Arglwydd,” a “Goruchaf.” Mae llawer o weddïau yn y Beibl yn annerch Jehofa gan ddefnyddio teitl parchus yn ogystal â’i enw personol.—Salm 83:18, BC.

Ffurf Duw. Ysbryd anweledig ydy Duw. (Ioan 4:24) Mae’r Beibl yn dweud “does neb erioed wedi gweld Duw.” (Ioan 1:18) Mae’r Beibl yn datgelu Ei deimladau. Gall pobl ei frifo yn ogystal â “rhoi pleser iddo.”—Diarhebion 11:20; Salm 78:40, 41.

Rhinweddau Hyfryd Duw. Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth tuag at bobl o unrhyw wlad na chefndir. (Actau 10:34, 35) Hefyd, “mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel!” (Exodus 34:6, 7) Ond, mae gan Dduw bedair rhinwedd sy’n arbennig o ddeniadol.

Grym. Am mai ef yw’r “Hollalluog,” mae ganddo rym diderfyn, digon i gyflawni beth bynnag mae’n ei addo.—Genesis 17:1, BCND.

Doethineb. Gan fod doethineb Duw yn uwch na neb arall, mae’r Beibl yn dweud mai ef yw’r “unig Dduw doeth.”—Rhufeiniaid 16:27.

Cyfiawnder. Mae Duw o hyd yn gwneud yr hyn sy’n iawn. Mae ei “waith yn berffaith,” ac nid yw “byth yn anghyfiawn.”—Deuteronomium 32:4.

Cariad. Nid dangos cariad yn unig y mae Duw, ond dywed y Beibl “mai cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Mae cariad, ei brif rinwedd, yn arglwyddiaethu ar bopeth mae’n ei wneud, ac yn llesol inni mewn llawer o ffyrdd.

Cyfeillgarwch Duw â Phobl. Duw ydy ein Tad nefol cariadus. (Mathew 6:9) Gallwn ni fod yn ffrindiau iddo drwy feithrin ffydd ynddo. (Salm 25:14, BCND) Yn wir, mae Duw yn eich gwahodd i glosio ato mewn gweddi, ac i roi’r “pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7; Iago 4:8.

Beth Yw’r Gwahaniaeth Rhwng Duw a Christ?

Nid Iesu Yw Duw. Mae Iesu yn unigryw am mai ef yw’r unig berson a grëwyd yn uniongyrchol gan Dduw. Dyna pam mae’r Beibl yn ei alw’n Fab Duw. (Ioan 20:31) Ar ôl creu Iesu, defnyddiodd Jehofa ei gyntaf-anedig “fel crefftwr” i greu pawb a phopeth arall.—Diarhebion 8:30, 31; Colosiaid 1:15, 16, BCND.

Ni wnaeth Iesu erioed honni mai ef yw Duw. Yn hytrach, esboniodd: “Dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy’r un anfonodd fi.” (Ioan 7:29) Wrth siarad ag un o’i ddisgyblion, gwnaeth Iesu alw Jehofa, “fy Nhad a’m Duw,” ac “eich Tad a’ch Duw chi hefyd.” (Ioan 20:17) Ar ôl i Iesu farw, gwnaeth Jehofa ei atgyfodi i’r nefoedd a rhoi iddo awdurdod mawr wrth Ei law dde.—Mathew 28:18; Actau 2:32, 33.

Gall Iesu Grist Eich Helpu i Agosáu at Dduw

Daeth Iesu i’r ddaear i’n dysgu ni am ei Dad. Dywedodd Jehofa ei hun am Iesu: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!” (Marc 9:7) Mae Iesu yn adnabod Duw yn well nag unrhyw un arall. Dywedodd: “Does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a’r rhai hynny mae’r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”—Luc 10:22.

Mae Iesu’n adlewyrchu rhinweddau Duw yn berffaith. Efelychodd Iesu ei Dad mor agos iddo allu dweud: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.” (Ioan 14:9) Roedd Iesu yn denu pobl at Dduw drwy adlewyrchu cariad ei Dad yn ei eiriau a’i weithredoedd. Dywedodd: “Fi ydy’r ffordd, . . . yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Dywedodd hefyd y byddai “gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo.” (Ioan 4:23, BCND) Dychmygwch hynny! Mae Jehofa’n chwilio am bobl fel chi sydd eisiau dysgu’r gwir amdano.