Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Creisis Iechyd Meddwl Fyd-Eang

Creisis Iechyd Meddwl Fyd-Eang

“Dw i wastad yn teimlo rhywfaint o bryder, hyd yn oed os dw i ond yn eistedd mewn ystafell ar fy mhen fy hun.”

“Hyd yn oed os dw i’n teimlo ar ben y byd, dw i’n poeni oherwydd dw i’n gwybod yn fuan wedyn mi fydda i’n suddo o dan y don.”

“Dw i’n trio cymryd un dydd ar y tro, ond weithiau mae pethau’n teimlo’n ormod imi.”

Allwch chi gydymdeimlo â’r rhai hyn sy’n stryglo â’u hiechyd meddwl? Ydych chi—neu rywun rydych chi’n ei garu—yn mynd trwy rywbeth tebyg?

Plîs cofiwch dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl heddiw yn dioddef oherwydd effeithiau iechyd meddwl, un a’i arnyn nhw eu hunain neu ar rywun maen nhw’n ei garu.

Yn amlwg, rydyn ni’n byw mewn ‘sefyllfa hynod o anodd’ sy’n achosi gymaint o ddioddefaint. (2 Timotheus 3:1) Yn ôl un adroddiad, mae tua un person o bob wyth ledled y byd yn brwydro ryw fath o afiechyd meddwl. Yn 2020, cynyddodd y nifer o bobl a oedd yn dioddef o orbryder tua 26 y cant, a chynyddodd nifer yr achosion o iselder dwys tua 28 y cant oherwydd y pandemig COVID-19.

Ond nid ystadegau sy’n diffinio iechyd meddwl. Beth sy’n bwysig ydy sut rydych chi’n teimlo, sut mae’ch anwyliaid yn teimlo, a sut rydych chi’n byw eich bywydau.

Beth ydy iechyd meddwl?

Mae iechyd meddwl da yn golygu bod mewn hwyliau da gyda’r gallu i wneud pethau pob dydd yn hwylus. Rydych chi’n gallu ymdopi â phroblemau cyffredin sy’n codi mewn bywyd, canolbwyntio ar eich gwaith, a theimlo’n fodlon â bywyd.

Anhwylderau meddyliol:

  • DYDYN NHW DDIM yn arwydd o wendid personol.

  • MAEN NHW’N gyflwr meddygol sy’n aflonyddu ar rywun ac yn amharu ar ei ffordd o feddwl, ei emosiynau, a’i ymddygiad.

  • Maen nhw’n gallu ei gwneud hi’n anodd i rywun greu perthynas ag eraill, ac i ddelio â phwysau bob dydd.

  • Maen nhw’n gallu effeithio ar bobl o bob oed, cefndir, hil, crefydd, statws, neu sefyllfa ariannol.

Cael help ar gyfer problemau iechyd meddwl

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei garu yn dechrau ymddwyn yn wahanol, yn dechrau cysgu gormod neu’n colli cwsg, yn dechrau bwyta mwy nag o’r blaen neu’n bwyta llai, neu’n dechrau teimlo’n drist ac yn pryderu am gyfnodau hir, efallai bydd angen help proffesiynol i ddeall beth sydd wrth wraidd y broblem a sut i’w gwella. Ond ble gallwch chi fynd am help?

Dywedodd Iesu Grist, y dyn doethaf erioed: “Does dim angen meddyg ar bobl iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl.” (Mathew 9:12) Gall help meddygol addas a meddyginiaeth gywir leihau symptomau rhywun, a’i helpu i fyw bywyd ystyrlon a hapus. Os ydy eich symptomau yn ddifrifol neu’n parhau, peidiwch â dal yn ôl rhag gofyn am help. a

Er nad ydy’r Beibl yn llyfr meddygol, mae’n cynnwys pethau a all helpu ein hiechyd meddwl. Rydyn ni’n estyn croeso cynnes ichi ddarllen yr erthyglau canlynol sy’n trafod sut gall y Beibl ein helpu ni i ddelio â phroblemau iechyd meddwl.

a Dydy’r Tŵr Gwylio ddim yn cefnogi unrhyw driniaeth arbennig. Dylai pob unigolyn feddwl yn ofalus am ei opsiynau cyn gwneud penderfyniad personol.