Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Addewidion a Fydd yn Dod yn Wir

Addewidion a Fydd yn Dod yn Wir

Mae’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn cael eu pregethu ar hyd a lled y byd yn union fel y proffwydodd Iesu. (Mathew 24:14) Mae llyfr Daniel yn y Beibl yn dweud wrthyn ni mai llywodraeth Duw ydy’r Deyrnas. Mae ail bennod y llyfr hwnnw yn cynnwys proffwydoliaeth sy’n olrhain cyfres o lywodraethau dynol, neu deyrnasoedd, o Fabilon gynt hyd ein dyddiau ni. Wrth ragfynegi’r hyn sydd i ddod, mae adnod 44 yn dweud:

“Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a’i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.”

Mae’r broffwydoliaeth hon ynghyd â rhai eraill yn rhagddweud y bydd Teyrnas Dduw yn disodli pob llywodraeth ddynol ac yn dod â sefydlogrwydd a threfn i bobl ar y ddaear. Sut bydd bywyd o dan y Deyrnas? Dyma rai addewidion rhyfeddol a fydd yn cael eu gwireddu yn fuan.

  • DIM RHYFEL

    Salm 46:9: “Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan [sef Duw]; mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.”

    Dychmygwch gymaint gwell fyddai’r byd petai’r holl arian ac arbenigedd sydd heddiw’n mynd ar ddatblygu arfau yn cael eu defnyddio i ddod â buddion i bobl yn hytrach nag i’w lladd nhw! Bydd yr addewid hwnnw yn dod yn wir o dan Deyrnas Dduw.

  • DIM SALWCH

    Eseia 33:24: “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”

    Dychmygwch fyd lle nad oes neb yn dioddef o anhwylder y galon, canser, malaria, neu unrhyw afiechyd arall. Ni fydd angen ysbytai na meddyginiaethau. Iechyd perffaith—dyna ydy’r dyfodol i drigolion y ddaear.

  • DIM DIFFYG BWYD

    Salm 72:16: “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”

    Bydd y ddaear yn cynhyrchu digonedd o fwyd i bawb, a bydd pawb yn gallu cael gafael arno. Ni fydd diffyg bwyd na diffyg maeth mwyach.

  • DIM POEN, GALAR, NA MARWOLAETH

    Datguddiad 21:4: “Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”

    Bydd hynny’n golygu bywyd tragwyddol, perffaith mewn paradwys ar y ddaear! Dyna beth mae ein Creawdwr cariadus, Jehofa Dduw, wedi ei addo.

CYFLAWNI PWRPAS DUW

Ydy hyn i gyd yn swnio’n rhy dda i fod yn wir? Er y byddai llawer o bobl yn cytuno bod bywyd fel y mae wedi ei addo a’i ddisgrifio yn y Beibl yn rhywbeth dymunol, mae llawer yn teimlo, am amryw resymau, fod y syniad o fyw am byth yn anodd ei ddeall. Nid syndod mo hyn oherwydd does yr un o’n cyd-fodau dynol wedi profi bywyd o’r fath, ac felly dydyn nhw ddim yn gallu sôn wrthyn ni amdano.

Mae dynolryw wedi bod yn gaeth i bechod a marwolaeth ac wedi llafurio o dan faich poen, dioddefaint, a chaledi am gyfnod mor hir fel y mae pobl wedi dod i dderbyn bod y bywyd hwn yn normal neu’n naturiol. Ond nid dyna oedd bwriad ein Creawdwr, Jehofa Dduw, ar gyfer dynolryw.

Er mwyn ein helpu ni i werthfawrogi’r sicrwydd sydd ynghlwm wrth ei addewidion, mae Duw yn dweud am ei air neu ei neges: “Dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith—mae’n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.”—Eseia 55:11.

Wrth ddisgrifio Jehofa, mae’r Beibl yn dweud: “Dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd.” (Titus 1:2) Gan ei fod wedi addo’r holl bethau gwych hyn ar gyfer y dyfodol, call iawn fyddai inni ofyn i ni’n hunain: Ydy hi’n wirioneddol bosib i fodau dynol fyw am byth mewn paradwys ddaearol? Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn elwa ar addewid Duw? Yn y tudalennau canlynol, cewch wybodaeth ddefnyddiol a fydd yn ateb y cwestiynau hynny.