Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oes Ots Beth Rydych Chi’n ei Gredu?

Oes Ots Beth Rydych Chi’n ei Gredu?

Ydych chi’n meddwl bod gan fywyd bwrpas? Dywed yr esblygwr William B. Provine: “Mae goblygiadau enfawr i’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu am broses esblygiad, ac mae’n effeithio ar y syniad fod gan ein bywydau ystyr.” Ei gasgliad? “Dydw i ddim yn gweld unrhyw ystyr sylfaenol neu gosmig i fywyd dynol.”32

Ystyriwch arwyddocâd y geiriau hynny. Os nad oes ystyr sylfaenol i fywyd, yr unig bwrpas i’ch bodolaeth fyddai ceisio gwneud ychydig o ddaioni a throsglwyddo eich nodweddion genetig i’r genhedlaeth nesaf. Pan fyddwch chi’n marw, fe fyddwch chi’n peidio â bodoli am byth. Hapddigwyddiad llwyr fyddai eich ymennydd gyda’i allu i feddwl, i resymu ac i fyfyrio ar ystyr bywyd.

Ond, mae goblygiadau eraill hefyd. Mae llawer sy’n credu mewn esblygiad naill ai’n honni nad yw Duw yn bodoli neu’n dweud na fydd yn ymyrryd mewn materion dynol. Yn y ddau achos, fe fyddai ein dyfodol yn dibynnu ar wleidyddion, academyddion, ac arweinwyr crefyddol. Mae gwersi hanes yn dangos y byddai’r anhrefn, y gwrthdaro, a’r llygredd sydd wedi bod yn bla ar gymdeithas yn parhau. Petai esblygiad yn wir, efallai’r peth gorau fyddai dilyn y cyngor: “Gadewch inni fwyta ac yfed, oherwydd yfory rydyn ni’n mynd i farw.”—1 Corinthiaid 15:32.

I’r gwrthwyneb, mae’r Beibl yn dysgu: “Ti [Duw] ydy’r ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Mae goblygiadau mawr i’r geiriau hynny.

Os yw’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud yn wir, mae gan fywyd ystyr. Mae gan ein Creawdwr fwriad cariadus i bawb sy’n dymuno byw yn unol â’i ewyllys. (Pregethwr 12:13) Mae hyn yn cynnwys yr addewid o fywyd mewn byd heb anhrefn, heb wrthdaro, heb lygredd a hyd yn oed heb farwolaeth.—Salm 37:10, 11; Eseia 25:6-8.

Dyna pam y mae miliynau o bobl ledled y byd yn credu bod dysgu am Dduw ac ufuddhau iddo yn rhoi ystyr i fywyd. (Ioan 17:3) Nid gobaith ofer yw hyn. Mae’r dystiolaeth yn glir—fe gafodd bywyd ei greu.