Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 4

Euogrwydd—“Pura Fi o’m Pechod”

Euogrwydd—“Pura Fi o’m Pechod”

“Wnaeth fy swydd newydd wella safon bywyd fy nheulu, ond aeth â fi i lawr y llwybr anghywir. Dechreuais ddathlu’r Nadolig a phenblwyddi, cymryd rhan mewn pethau gwleidyddol, a hyd yn oed mynd i’r eglwys. O’n i’n anweithredol fel un o Dystion Jehofa am 40 mlynedd. Y mwyaf o amser aeth heibio, y mwyaf o’n i’n dechrau meddwl fy mod i tu hwnt i faddeuant Jehofa. O’n i’n teimlo nad oeddwn i’n gallu maddau i fi fy hun. Wedi’r cwbl, o’n i’n gwybod y gwirionedd cyn imi fynd lawr y llwybr hwnnw.”—Martha.

GALL euogrwydd fod yn faich trwm ofnadwy. “Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i,” ysgrifennodd y Brenin Dafydd. “Mae fel baich sy’n rhy drwm i’w gario.” (Salm 38:4) Mae rhai Cristnogion wedi cael eu llethu’n llwyr ac wedi suddo i anobaith, gan deimlo’n sicr na allai Jehofa byth faddau iddyn nhw. (2 Corinthiaid 2:7) Ydy’r casgliad hwnnw’n gywir? Hyd yn oed os wyt ti wedi pechu’n ddifrifol, wyt ti mor bell oddi wrth Jehofa fel na fydd ef byth yn maddau iti? Nac wyt, ddim o gwbl!

“Gadewch i Ni Ddeall Ein Gilydd”

Dydy Jehofa ddim yn cefnu ar y rhai sy’n edifarhau am eu pechodau. Mewn gwirionedd, mae’n estyn allan atyn nhw! Cymharodd Iesu Jehofa â’r tad cariadus yn nameg y mab colledig. Cefnodd y mab hwnnw ar ei deulu a dechrau byw bywyd anfoesol. Ymhen amser, penderfynodd y mab fynd yn ôl adref. “Gwelodd ei dad e’n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a’i gofleidio a’i gusanu.” (Luc 15:11-20) Wyt ti eisiau closio at Jehofa, ond yn teimlo dy fod ti’n “dal yn bell i ffwrdd” oddi wrtho? Fel y tad yn nameg Iesu, mae Jehofa yn teimlo i’r byw drostot ti. Mae’n awyddus i dy groesawu di’n ôl.

Ond beth os wyt ti’n teimlo bod dy bechodau yn rhy ddifrifol neu’n rhy niferus i Jehofa eu maddau? Plîs ystyria wahoddiad Jehofa yn Eseia 1:18: “‘Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,’—meddai’r ARGLWYDD. ‘Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira.’” Ie, dydy hyd yn oed pechodau sy’n ymddangos fel staen coch ystyfnig ar ddilledyn gwyn ddim tu hwnt i faddeuant Jehofa.

Dydy Jehofa ddim eisiau iti barhau i ddioddef oherwydd cydwybod euog. Sut felly gelli di deimlo’r rhyddhad sy’n dod o gael maddeuant Duw a chydwybod lân? Ystyria ddau gam y cymerodd y Brenin Dafydd. Yn gyntaf, dywedodd: “Dw i’n mynd i gyffesu’r cwbl i’r ARGLWYDD.” (Salm 32:5) Cofia, mae Jehofa eisoes wedi dy wahodd di i weddïo arno er mwyn i chi ‘ddeall eich gilydd.’ Derbynia’r gwahoddiad hwnnw. Cyfaddefa dy bechodau i Jehofa, a rhanna dy deimladau ag ef. O’i brofiad ei hun, gallai Dafydd weddïo’n hyderus: “Pura fi o’m pechod. . . . Calon wedi ei thorri, ac ysbryd sy’n edifar—wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.”—Salm 51:2, 17.

Yn ail, cafodd Dafydd help gan un o gynrychiolwyr apwyntiedig Duw—y proffwyd Nathan. (2 Samuel 12:13) Heddiw, mae Jehofa wedi rhoi henuriaid yn y gynulleidfa sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu’r rhai edifar i adfer eu perthynas â Jehofa. Pan fyddi di’n mynd at yr henuriaid, byddan nhw’n defnyddio’r Beibl ac yn gweddïo’n daer i dy gysuro di, i leihau neu gael gwared ar dy deimladau negyddol, ac i dy helpu i ddod atat ti dy hun yn ysbrydol.—Iago 5:14-16.

Mae Jehofa eisiau i tithau deimlo’r rhyddhad sy’n dod o gael cydwybod lân

Hapus Yw’r Un a Gafodd Faddau ei Bechod

Efallai dy fod ti’n teimlo y byddai cyfaddef dy bechodau i Jehofa Dduw a mynd at yr henuriaid ymysg y pethau anoddaf gallet ti eu gwneud. Mae’n amlwg roedd Dafydd yn teimlo’r un fath. Roedd yn “cadw’n ddistaw” am ei bechodau am amser hir. (Salm 32:3) Ond wedyn, teimlodd yn well o lawer ar ôl cyfaddef ei bechodau a chywiro ei gwrs.

O ganlyniad i hyn, cafodd Dafydd ei lawenydd yn ôl. Ysgrifennodd: “O mor hapus yw’r gŵr a gafodd faddau ei drosedd, a gorchuddio ei bechod.” (Salm 32:1, Lewis Valentine) Hefyd, fe weddïodd: “O ARGLWYDD, agor fy ngheg, i mi gael dy foli.” (Salm 51:15) Wedi cael rhyddhad o’r teimladau o euogrwydd, cafodd Dafydd ei gymell i sôn wrth eraill am Jehofa.

Mae Jehofa eisiau i tithau deimlo’r rhyddhad sy’n dod o gael cydwybod lân. Ac mae’n dymuno iti ddweud wrth eraill amdano ef a’i fwriadau gyda llawenydd dwfn, heb deimladau o euogrwydd. (Salm 65:1-4) Cofia ei wahoddiad i droi’n ôl ato, a ‘bydd dy bechodau di’n cael eu maddau. Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith.’—Actau 3:19.

Dyma ddigwyddodd i Martha. Mae hi’n dweud: “Daliodd y mab ati i anfon y cylchgronau Tŵr Gwylio a Deffrwch! ata i. Fesul tipyn, des i i adnabod Jehofa unwaith eto. Y rhan anoddaf o ddod yn ôl oedd gofyn maddeuant am fy holl bechodau. Ond yn y diwedd, gweddïais ar Dduw a gofyn iddo faddau imi. Mae’n anodd credu aeth 40 mlynedd heibio cyn imi ddod yn ôl at Jehofa. Dw i’n brawf byw o’r ffaith fod rhywun, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd maith, yn gallu cael cyfle arall i wasanaethu Duw a theimlo ei gariad unwaith eto.”