Neidio i'r cynnwys

IONAWR 20, 2022
NEWYDDION BYD-EANG

Defnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Fwy Effeithiol Gyda Help Nodweddion JW Library

Defnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Fwy Effeithiol Gyda Help Nodweddion JW Library

Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd y Corff Llywodraethol fod llyfr a llyfryn newydd o’r enw Mwynhewch Fywyd am Byth! ar gael. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn defnyddio dulliau dysgu rhyngweithiol sy’n ein helpu ni i astudio’r Beibl yn fwy effeithiol gyda phobl.

Mae nodweddion newydd yn yr ap JW Library, sy’n gwneud y llyfr a’r llyfryn digidol yn fwy deniadol i’r athro ac i’r myfyriwr. Cymerwch amser i ddysgu sut i ddefnyddio’r nodweddion newydd hyn.

  • Ydych chi eisiau tynnu sylw’r myfyriwr at ran benodol yn y wers? Tapiwch ar y paragraff a bydd dewislen yn codi. Dewiswch y botwm Rhannu er mwyn rhannu linc i’r paragraff penodol hwnnw.

  • Ydych chi eisiau gwrando gyda’r myfyriwr ar y paragraff yn cael ei ddarllen? Tapiwch ar y paragraff er mwyn agor y ddewislen. Dewiswch y botwm Chwarae er mwyn chwarae recordiad sy’n dechrau o’r paragraff hwnnw. a

  • Efallai bydd y myfyriwr yn defnyddio fersiwn printiedig a chithau’n defnyddio fersiwn digidol. Ydych chi eisiau gweld sut mae’r fersiwn printiedig yn edrych? O’r ddewislen Mwy (sy’n ymddangos fel tri dot yn y gornel uchaf ar ochr dde’r sgrin), dewiswch Fersiwn Printiedig. I fynd yn ôl i’r cyhoeddiad digidol, dewiswch Fersiwn Digidol yn yr un ddewislen.

  • Ydych chi eisiau helpu eich myfyrwyr i gadw cofnod o’u cynnydd yn y cyhoeddiad digidol? Anogwch nhw i ddefnyddio’r blychau i nodi dyddiad cwblhau’r wers neu i osod nod personol. Gallan nhw hefyd ddefnyddio’r siart rhyngweithiol “Darllen y Beibl—Eich Cofnod Personol”.

a Nid yw’r recordiadau ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.