Neidio i'r cynnwys

HYDREF 21, 2022
Y DEYRNAS UNEDIG

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Pwnjabeg (Shamwci)

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Pwnjabeg (Shamwci)

Ar Hydref 9, 2022, gwnaeth y Brawd Paul Norton, aelod o Bwyllgor Cangen Prydain, ryddhau Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew yn yr iaith Pwnjabeg (Shamwci) yn ystod rhaglen fyw. Roedd dros 1,300 yn bresennol, gan gynnwys cyhoeddwyr oedd yn gwylio’r rhaglen o Neuaddau’r Deyrnas ar hyd a lled tiriogaeth cangen Prydain. Roedd y llyfr ar gael ar unwaith ar ffurf sain, yn ddigidol, ac yn brintiedig.

Mae miliynau o bobl yn India, Pacistan, a gwledydd eraill yn siarad Pwnjabeg. Ym mis Hydref 2020, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd cyfan ei ryddhau yn Pwnjabeg gyda’r wyddor Gwrmwci. Ond mae’r fersiwn newydd yma yn defnyddio’r wyddor Shamwci, sydd yn fwy cyfarwydd i rai darllenwyr, yn enwedig os nad ydyn nhw’n gallu darllen Gwrmwci nac yn deall yr iaith. Hyd yn hyn, mae darllenwyr Pwnjabeg (Shamwci) wedi dibynnu ar gyfieithiadau eraill o’r Beibl, fel Wrdw.

Dros y blynyddoedd, mae gwahanol lyfrau o’r Beibl wedi cael eu rhyddhau yn yr iaith Pwnjabeg (Shamwci). Ond mae’r cyfieithiad hwn o Mathew yn canolbwyntio’n arbennig ar fod yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall. Ond yn bwysicaf oll, mae’n cynnwys enw Jehofa.

Dywedodd un cyfieithydd wnaeth weithio ar y prosiect: “Mae rhai pobl wedi clywed enw Jehofa mewn emynau. Ond am fod cyfieithwyr wedi tynnu’r enw o’r rhan fwyaf o adnodau yn y Beibl, dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw’n gallu nesáu at Dduw. Ond rŵan, byddan nhw’n gweld enw Duw ym mhob man y dylai fod yn y llyfr yma.”

Rydyn ni’n hyderus y bydd y llyfr hwn yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd i nesáu at Jehofa a moli ei enw yn fwy byth.—Mathew 6:9.