Neidio i'r cynnwys

Telerau Defnyddio

Telerau Defnyddio

Croeso!

Darperir y wefan hon er mwyn ichi ddysgu mwy am Dduw, y Beibl, ac am Dystion Jehofa. Cewch ddarllen, gwylio, neu lawrlwytho cynnwys sydd o ddiddordeb i chi. Ein dymuniad yw helpu eraill ddefnyddio’r wefan hon hefyd, ond, gofynnwn yn garedig ichi beidio ag atgynhyrchu’r cynnwys ar wefan neu ar ap arall. Cewch gyfeirio eraill at y wefan hon fel amlygir isod yn y Telerau Defnyddio.

 Hawlfraint

© 2024 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, Inc. Cedwir pob hawl.

Cyhoeddir a chynhelir y wefan hon gan Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc. (“Watchtower”). Oni nodir fel arall, mae pob testun a gwybodaeth arall ar y wefan hon yn eiddo deallusol Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania (“Watch Tower”).

 Nodau Masnach

Mae Adobe, logo Adobe, Acrobat, a logo Acrobat yn nodau masnach Adobe Systems Incorporated. Mae Apple, iTunes, ac iPod yn nodau masnach Apple Inc. Mae Microsoft a’r logo Microsoft, yn ogystal ag enwau unrhyw feddalwedd Microsoft a chynnyrch Microsoft, gan gynnwys Microsoft Office a Microsoft Office 365 yn nodau masnach Microsoft Inc. Mae Android yn nod masnach Google LLC. Atgynhyrchir ac addasir robot Android o waith a grewyd a’i rannu gan Google a’i ddefnyddio gan ddilyn y termau a ddisgrifir yn y Creative Commons 3.0 Attribution License (https://creativecommons.org/licenses/by/3.0/us/).Mae pob nod masnach arall a phob nod masnach cofrestredig yn eiddo i’w dalwyr priodol.

 Telerau Defnyddio a Thrwydded i Ddefnyddio’r Wefan

Mae Telerau Defnyddio yn rheoli eich defnydd o’r wefan hon. Wrth ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y Telerau Defnyddio hyn ynghyd ag unrhyw Delerau Defnyddio Ychwanegol (yn dorfol, “Telerau Defnyddio”) a nodir ar y wefan hon, yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r Telerau Defnyddio hyn neu unrhyw ran o’r Telerau Defnyddio hyn, yna ni ddylech chi ddefnyddio’r wefan hon.

Beth yw defnydd priodol? Heblaw’r cyfyngiadau a amlinellir isod, cewch:

  • Weld, lawrlwytho, ac argraffu lluniau sydd â hawlfraint Watch Tower, cyhoeddiadau electronig, cerddoriaeth, ffotograffau, testun, neu fideos oddi ar y wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac ar gyfer pwrpas defnydd anfasnachol.

  • Rhannu cysylltiadau neu gopïau electronig o gyhoeddiadau wedi’u lawrlwytho, fideos, a rhaglenni sain oddi ar y wefan hon.

Ni chewch chi:

  • Postio lluniau, cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, fideos, nag erthyglau oddi ar y wefan hon ar y Rhyngrwyd (unrhyw wefan, safle sy’n rhannu ffeiliau, safle sy’n rhannu fideos, ac unrhyw rwydwaith cymdeithasol).

  • Rhannu lluniau, cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, testun, a fideos oddi ar y wefan hon gyda neu fel rhan o raglen meddalwedd (gan gynnwys llwytho i fyny deunydd ar weinydd ar gyfer rhaglen meddalwedd).

  • Ailgynhyrchu, dyblygu, copïo, rhannu, neu gam-fanteisio mewn unrhyw ffordd luniau, cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, testun, a fideos oddi ar y wefan hon ar gyfer pwrpas masnachol neu ar gyfer pwrpas ariannol (hyd yn oed os nad oes elw yn cael ei wneud).

  • Creu unrhyw raglen meddalwedd, offerynnau, neu dechnegau er mwyn codi data, HTML, delweddau, a thestun i’w lawrlwytho, eu hechdynnu, eu cywain, neu eu crafu oddi ar y wefan hon. (Nid yw hyn yn gwahardd rhannu yn rhad ac am ddim raglenni anfasnachol sydd wedi eu dylunio er mwyn lawrlwytho ffeiliau electronig fel EPUB, PDF, MP3, a ffeiliau MP4 oddi ar safleoedd cyhoeddus y wefan hon.)

  • Camddefnyddio’r wefan na’i gwasanaethau, fel ymyrryd â’r wefan neu gael gafael ar y wefan neu ei gwasanaethau gan ddefnyddio dull nad yw wedi eu mynegi’n benodol yma.

  • Defnyddio’r wefan hon mewn unrhyw ffordd a fydd yn achosi, neu a fydd yn bosibl i achosi, niwed i’r wefan neu yn amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; neu mewn unrhyw ffordd sydd yn anghyfreithlon, twyllodrus, neu yn niweidiol, neu mewn unrhyw weithgaredd neu bwrpas sy’n anghyfreithlon, twyllodrus, neu sydd yn niweidiol.

  • Defnyddio’r wefan hon neu unrhyw lun oddi arni, neu gyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, testun, neu fideos ar gyfer unrhyw beth sy’n ymwneud â marchnata.

  • Mae’r wefan hon yn defnyddio gwasanaethau Google Maps, sy’n wasanaeth trydydd parti nad ydym yn ei reoli. Mae’ch defnydd o Google Maps ar y wefan hon o dan Telerau Ychwanegol Gwasanaeth Google Maps/Google Earth. Nid ydyn yn cael gwybod pan ddiweddarwyd eu Telerau Gwasanaeth, felly peth doeth yw eu hadolygu cyn defnyddio gwasanaethau Google Maps. Peidiwch â defnyddio gwasanaethau Google Maps heb gytuno â’r Telerau Gwasanaeth. Nid oes data defnyddwyr yn cael eu dychwelyd i’r wefan hon gan Google Maps.

 Adran Feddygol

Diben cynnwys adran feddygol y wefan hon (“Adran Feddygol”) yw darparu gwybodaeth yn unig ac nid i greu cyngor meddygol, ac nid yw’n cymryd lle cyngor meddygol proffesiynol, barn feddygol, na thriniaeth feddygol. Nid yw’r Adran Feddygol yn cymeradwyo nac yn cefnogi unrhyw brawf penodol, meddyg, cynnyrch, barn, neu unrhyw wybodaeth arall a grybwyllwyd yn yr Adran Feddygol.

Ewch at feddyg neu at ddarparwr gofal iechyd sydd â chymwysterau proffesiynol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â chyflwr meddygol neu driniaeth.

Ymgeisiwyd i gynnwys gwybodaeth gywir a diweddaraf yn yr Adran Feddygol. Er hynny, darperir y wybodaeth yn yr Adran Feddygol ichi gyrchu “FEL Y MAE” heb warant, naill ai wedi’i mynegi neu wedi’i hawgrymu. Mae’r wefan hon yn ymwrthod â phob gwarant sydd wedi’i mynegi neu wedi’i hawgrymu yn gyswllt â’r Adran Feddygol gan gynnwys, ond nid yn gyfyng i’r, gwarantau awgrymedig marchnadwyedd a bod yn addas i’r pwrpas. Nid yw’r wefan hon yn gwarantu i ddibynadwyedd, i gywirdeb, i amseroldeb, i ddefnyddioldeb, nac i gyflawnder y wybodaeth a gyrchwyd trwy’r Adran Feddygol. Nid yw’r wefan hon yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb unrhyw gamgymeriad neu wall yng nghynnwys yr Adran Feddygol. Ar eich cyfrifoldeb eich hun yr ydych yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth o fewn yr Adran Feddygol.

 Ymwadiad Gwarant a Chyfyngiad ar Atebolrwydd

Mae’r wefan hon ar holl wybodaeth, cynnwys, deunydd, a’r adnoddau eraill sydd ar gael i chi drwy’r wefan hon,wedi’u darparu gan Watchtower ar sail “fel y mae.” Nid yw Watchtower yn ymhlyg nac yn datgan unrhyw sylwadau na gwarant o unrhyw fath.

Nid yw Watchtower yn gwarantu bod y wefan heb firws na heb gydran niweidiol. Ni fydd Watchtower yn atebol i unrhyw iawndal o unrhyw fath o ganlyniad i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, neu o unrhyw wybodaeth, cynnwys, deunydd, neu unrhyw wasanaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i iawndal boed hynny’n uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, cosbol, a chanlyniadol, (gan gynnwys colled ariannol).

 Torri Telerau Defnyddio

Heb newid nac amharu ar hawliau eraill Watchtower o dan y Telerau Defnyddio hyn, os rydych chi’n torri y Termau Defnyddio hyn mewn unrhyw ffordd, bydd gan Watchtower yr hawl i ddewis pa gamau priodol i gymryd wrth ddelio â’r toriad, gan gynnwys atal eich hawl mynediad i’r wefan, gwahardd eich mynediad i’r wefan, rhwystro eich mynediad i’r wefan gan gyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth Rhyngrwyd a gofyn iddyn nhw rwystro eich mynediad i’r wefan a chymryd/neu gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn chi.

 Amrywiad

Mae gan Watchtower yr hawl i newid y Telerau Defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Bydd y Telerau Defnyddio diwygiedig o ddefnyddio’r wefan hon yn berthnasol o’r dyddiad y cyhoeddir y Telerau Defnyddio diwygiedig ar y wefan hon. Tarwch olwg, os gwelwch yn dda, yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn diweddaraf.

 Cyfraith ac Awdurdodaeth

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn ôl deddfau Talaith Efrog Newydd, UDA, heb ystyried gwrthdaro â’r trefniadau cyfreithiol. Bydd unrhyw gamau cyfreithiol sy’n berthnasol i’r Telerau Defnyddio hyn yn dod gerbron y dalaith neu lys ffederal gydag awdurdodaeth yn Nhalaith Efrog Newydd, UDA.

 Torri’r Cyswllt

Os penderfynir llys o awdurdodaeth gymwys fod darpariaeth y Telerau Defnyddio hyn yn ddiawdurdod, yn annilys, yn amhosibl i’w gweithredu, neu yn anghyfreithlon, yna bydd y darpariaethau eraill yn parhau i weithredu. Ni ellir ystyried ac ni ellir dehongli fod methiant Watchtower i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddio hyn fel ildio’r hawl o unrhyw ddarpariaeth neu’r hawl i orfodi unrhyw un o’r darpariaethau hynny.

 Cytundeb Llawn

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn cynrychioli’r cytundeb llawn rhyngoch chi a Watchtower sy’n berthnasol i’ch defnydd o’r wefan hon, ac yn disodli pob cytundeb cynharach sy’n berthnasol i’ch defnydd o’r wefan hon.