Neidio i'r cynnwys

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Nadolig?

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Nadolig?

Syniadau anghywir

Chwedl: Dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu’r Nadolig gan nad ydyn nhw’n credu yn Iesu.

 Ffaith: Rydyn ni’n Gristnogion ac yn credu mai drwy Iesu Grist yn unig y cawn ein hachub.—Actau 4:12.

  Chwedl: Rydych yn gwahanu teuluoedd drwy ddysgu pobl i beidio â dathlu’r Nadolig.

 Ffaith: Mae gofal mawr gennyn ni am y teulu, a thrwy ddefnyddio’r Beibl rydyn ni’n cryfhau’r berthynas deuluol.

  Chwedl: Rydych yn colli “ysbryd y Nadolig,” sef, rhoi yn hael a dymuno heddwch ac ewyllys da tuag at bawb.

 Ffaith: Rydyn ni’n ceisio bod yn heddychlon ac yn hael bob dydd. (Diarhebion 11:25; Rhufeiniaid 12:18) Er enghraifft, rydyn ni’n cynnal ein cyfarfodydd ac yn tystiolaethu yn unol â gorchymyn Iesu: “Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.” (Mathew 10:8) Yn ychwanegol i hyn, rydyn ni’n cyfeirio sylw at Deyrnas Dduw fel yr unig obaith am heddwch ar y ddaear.—Mathew 10:7.

Pam nad yw Tystion Jehofa yn dathlu’r Nadolig?

  •   Gorchymyn Iesu oedd inni goffáu ei farwolaeth, nid ei enedigaeth.—Luc 22:19, 20.

  •   Doedd apostolion a disgyblion cynnar Iesu ddim yn dathlu’r Nadolig. Mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud “nid oedd gwledd yr Enedigaeth wedi ei sefydlu cyn 243 [OG]”—mwy na chanrif ar ôl i’r apostol olaf farw.

  •   Does dim tystiolaeth o enedigaeth Iesu ar Ragfyr 25; nid yw’r dyddiad wedi ei gofnodi yn y Beibl.

  •   Rydyn ni’n credu nad yw Duw yn cymeradwyo’r Nadolig oherwydd ei wreiddiau a’i arferion Paganaidd.—2 Corinthiaid 6:17.

Pam gwneud y Nadolig yn broblem?

 Mae llawer yn dathlu’r Nadolig er eu bod nhw’n gwybod ei wreiddiau paganaidd, ac er nad oes sail Ysgrythurol iddo. Fe all y fath berson ofyn iddo’i hun: Pam dylai Cristnogion wneud safiad mor amhoblogaidd? Pam gwneud môr a mynydd ohono?

 Mae’r Beibl yn ein hannog ni i feddwl dros ein hunain, ac i ddefnyddio ein synhwyrau sydd wedi eu disgyblu gan Air Duw. (Hebreaid 5:14) Mae’n dysgu ni i werthfawrogi’r gwir. (Ioan 4:23, 24) Felly tra bod gennyn ni ddiddordeb yn yr hyn mae eraill yn ei feddwl ohonon ni, rydyn ni’n glynu wrth egwyddorion y Beibl, er bod hynny’n amhoblogaidd.

 Er nad ydyn ni’n dewis dathlu’r Nadolig, rydyn ni’n parchu hawl pob unigolyn i ddewis dros ei hun os yw’n ei ddathlu ai peidio. Nid ydyn ni’n ymyrryd yn nathliadau pobl eraill.