Neidio i'r cynnwys

Mae Clerigwr yn Cael Atebion

Mae Clerigwr yn Cael Atebion

 Un diwrnod, pan oedd Eliso, un o Dystion Jehofa, yn cynnal astudiaeth Feiblaidd yng nghartref dynes â diddordeb, daeth dau ymwelwr at y drws yn annisgwyl. Yno, roedd clerigwr a’i wraig. Roedd Eliso wedi clywed bod y cwpl wedi colli eu hunig fab yn ddiweddar.

 Wrth i Eliso gydymdeimlo â nhw dros eu colled, dechreuodd y clerigwr a’i wraig feichio crio. Yna, meddai’r clerigwr yn ddig: “Dw i ddim yn ddeall pam caniataodd Duw’r fath dreial! Pam wnaeth o gymryd fy unig fab? Dw i wedi bod yn gwasanaethu Duw am 28 o flynyddoedd, yn gwneud llawer o bethau da, a dyma dw i’n gael! Pam wnaeth Duw ladd fy mab?”

 Esboniodd Eliso i’r cwpl nad oedd Duw wedi cymryd eu mab. Gwnaeth hi hefyd drafod pynciau fel y pridwerth, yr atgyfodiad, a rhesymau pam mae Duw yn caniatáu i bethau drwg ddigwydd. Dywedodd y clerigwr a’i wraig wrth Eliso ei bod hi newydd roi iddyn nhw’r atebion roedden nhw wedi bod yn gweddïo amdanyn nhw.

 Yr wythnos wedyn, daeth y clerigwr a’i wraig yn eu holau ac ymuno yn astudiaeth Feiblaidd y ddynes. Roedd Eliso yn trafod y bennod “Gobaith Sicr ar Gyfer Eich Anwyliaid Sydd Wedi Marw,” yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Cyfrannodd y cwpl yn frwd i’r drafodaeth.

 Yn nes ymlaen, aeth y ddau ohonyn nhw i gynhadledd arbennig Tystion Jehofa yn Tbilisi, Georgia, a chafodd y cariad mawr a’r undod a welson nhw yno argraff ddofn arnyn nhw—rhinweddau roedden nhw wedi ceisio ennyn yn aelodau eu heglwys, ond heb lwyddiant.