Neidio i'r cynnwys

Ydy Hi’n Iawn i Gristion Gael Triniaeth Feddygol?

Ydy Hi’n Iawn i Gristion Gael Triniaeth Feddygol?

Ateb y Beibl

 Ydy, wrth gwrs. Awgrymodd Iesu ei bod hi’n iawn i’w ddilynwyr gael triniaeth feddygol pan ddywedodd: “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl.” (Mathew 9:12) Er nad yw’r Beibl yn llawlyfr meddygol, mae’n cynnwys egwyddorion a all helpu pobl sy’n ceisio plesio Duw.

Ystyriwch y cwestiynau canlynol

 1. A ydw i’n deall beth yw’r driniaeth sy’n cael ei chynnig? Mae’r Beibl yn rhoi cyngor inni ar sut i gael hyd i wybodaeth ddibynadwy, yn hytrach na bod “yn fodlon credu unrhyw beth.”—Diarhebion 14:15.

 2. A ddylwn i gael barn meddygon eraill? Gall fod yn well “pan fydd llawer yn rhoi cyngor,” yn enwedig os yw eich cyflwr yn un difrifol.—Diarhebion 15:22.

 3. Ydy’r driniaeth yn golygu torri gorchymyn y Beibl i “ymgadw rhag . . . gwaed”?—Actau 15:20, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

 4. A ddefnyddir ysbrydegaeth i ganfod neu i drin y cyflwr? Mae’r Beibl yn condemnio dewiniaeth. (Galatiaid 5:19-21) Er mwyn darganfod a yw’r driniaeth yn ymwneud â dewiniaeth, ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  •   Ydy’r un sy’n eich trin yn defnyddio dewiniaeth?

  •   Ydy’r driniaeth yn seiliedig ar y gred bod gelynion sy’n defnyddio dewiniaeth neu dduwiau creulon yn achosi’r afiechyd?

  •   A ddefnyddir aberthau, swynion, neu ddefodau ysbrydegol eraill wrth baratoi neu gymryd y ffisig?

 5. Ydy fy iechyd yn mynd yn obsesiwn gen i? Mae’r Beibl yn ein hannog i ofalu am ein hiechyd ac i fod yn garedig ac yn gytbwys. (Philipiaid 4:5) Bydd bod yn rhesymol yn hyn o beth yn eich helpu chi i ganolbwyntio ar “ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser,” sef gwasanaethu Jehofa.—Philipiaid 1:10; Mathew 5:3.