Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH WYLIADWRUS!

6 Miliwn o Farwolaethau COVID​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

6 Miliwn o Farwolaethau COVID​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), hyd at Fai 23, 2022, mae 6.27 miliwn o bobl wedi marw o ganlyniad i COVID-19. Fodd bynnag, mewn adroddiad newyddion a gafodd ei gyhoeddi ar Fai 5, 2022, gwnaeth y WHO amcangyfrif bod nifer y bobl sydd wedi marw yn llawer iawn uwch. Dywedodd fod “y nifer o bobl sydd wedi marw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oherwydd y pandemig COVID-19 . . . wedi cyrraedd tua 14.9 miliwn,” yn ystod 2020 a 2021. Ydy’r Beibl yn dweud unrhyw beth am drychinebau torcalonnus o’r fath?

Gwnaeth y Beibl ragfynegi pandemigau sy’n lladd

  •    Rhagfynegodd Iesu y byddai afiechydon, neu epidemigau o “heintiau,” yn y cyfnod o amser sy’n cael ei alw’r “dyddiau diwethaf.”—2 Timotheus 3:1; Luc 21:11, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

 Mae proffwydoliaeth Iesu yn cael ei chyflawni heddiw. I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl “Beth Yw Arwyddion y ‘Dyddiau Diwethaf’ neu’r ‘Cyfnod Olaf’?

Mae’r Beibl yn rhoi cysur

  •    “Clod i Dduw. . . . Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”—2 Corinthiaid 1:3, 4.

 Mae llawer sydd wedi colli anwylyn mewn marwolaeth wedi dod o hyd i gysur yn neges y Beibl. Dysgwch fwy yn yr erthyglau “Ymdopi â Galar—Yr Hyn Gallwch Chi ei Wneud Heddiw” ac “Yr Help Gorau ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru.”

Mae’r Beibl yn dangos sut i ddatrys y broblem am byth

  •    “Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd.”—Mathew 6:10.

 Yn fuan bydd Teyrnas Dduw yn sicrhau na “fydd neb sy’n byw [ar y ddaear yn] dweud, ‘Dw i’n sâl!’” (Eseia 33:24; Marc 1:14, 15) Gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw? i gael mwy o wybodaeth am y llywodraeth nefol hon a beth bydd yn ei wneud.

 Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddysgu mwy am beth mae’r Beibl yn ei ddweud er mwyn i chi a’ch teulu elwa ar ei gyngor doeth a’i addewidion cyffrous.