Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH WYLIADWRUS!

Mae’r Ddaear yn Cael ei Difetha—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Mae’r Ddaear yn Cael ei Difetha—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 “Rydyn ni ar fin trychineb hinsawdd. Bydd dinasoedd mawr o dan ddŵr. Bydd ’na dywydd poethach nag erioed, stormydd ofnadwy, a phrinder dŵr mewn mwy o lefydd. A bydd miliwn o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn diflannu. Dydyn ni ddim yn gor-ddweud pethau; mae hyn yn ffaith. Dyma mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthon ni fydd yn digwydd os nad ydyn ni’n newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio egni.”—Anerchiad gan António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn sôn am adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd gafodd ei gyhoeddi ar Ebrill 4, 2022.

 “Mae gwyddonwyr yn rhybuddio y bydd newid hinsawdd yn difetha bron iawn pob un o’r 423 o barciau cenedlaethol [yn yr Unol Daleithiau] cyn bo hir, oherwydd dydyn nhw ddim yn ymateb yn dda i dymheredd uchel. Mae’r rhestr o bethau drwg a allai ddigwydd yn swnio fel rhywbeth o’r Beibl: tân a llifogydd, iâ yn dadmer, lefelau’r môr yn codi, a thywydd eithafol o boeth.”—“Flooding Chaos in Yellowstone, a Sign of Crises to Come,” The New York Times, Mehefin 15, 2022.

 Ydy hi’n bosib datrys problemau amgylcheddol y ddaear? Os felly, pwy fydd yn eu datrys? Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

Niwed i’r amgylchedd wedi ei ragfynegi

 Mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn ‘dinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.’ (Datguddiad 11:18) Mae’r adnod hon yn dysgu tri pheth inni:

  1.  1. Bydd pobl yn achosi niwed mawr i’r ddaear.

  2.  2. Fe fydd y dinistr yn dod i ben.

  3.  3. Duw, nid pobl, fydd yn datrys problemau amgylcheddol y ddaear.

Mae ’na ddyfodol disglair i’n planed

 Mae’r Beibl yn dweud y bydd y “ddaear yn aros am byth.” (Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly bydd pobl yn byw arni am byth.

  •   “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.

 Bydd ein planed yn hollol iach unwaith eto.

  •   “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.