Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pan Fo Bywyd yn Eich Llethu

Pan Fo Bywyd yn Eich Llethu

GALL bywyd fod yn bleser pur—pan mae popeth yn mynd yn dda. Ond beth os yw eich amgylchiadau yn gwneud ichi deimlo bod bywyd yn ormod?

Er enghraifft, esboniodd Sally, * o’r Unol Daleithiau, a gollodd y rhan fwyaf o’i phethau materol mewn corwynt: “Doeddwn i ddim yn gwybod os oeddwn i’n gallu dioddef llawer mwy. O’n i’n aml yn teimlo fy mod i wedi dod i ben fy nhennyn.”

Neu beth os bydd anwylyn yn marw? Dywedodd Janice, o Awstralia: “Pan fu farw fy nau fab, oedd hi fel petai fy mywyd wedi torri’n deilchion ac oedd rhaid imi gasglu’r darnau a’u rhoi nhw’n ôl at ei gilydd. Erfyniais ar Dduw: ‘Plîs, alla’ i ddim goddef mwy o boen! Jest gad imi fynd i gysgu. Dw i ddim eisiau deffro eto.’”

Ar y llaw arall, torrwyd calon Daniel pan fuodd ei wraig yn anffyddlon. Esboniodd: “Pan gyffesodd fy ngwraig ei hanffyddlondeb, o’n i’n teimlo fel petai cyllell wedi trywanu fy nghalon. Teimlais boen gorfforol yn fy nhrywanu dro ar ôl tro—ac aeth hynny ymlaen am fisoedd.”

Bydd y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio yn trafod pam mae bywyd yn werth ei fyw hyd yn oed pan fo

Felly, yn gyntaf, sut gallwn ni ymdopi pan fo trychineb naturiol yn taro?

^ Newidiwyd rhai enwau yn y gyfres hon o erthyglau.