Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 2

Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd

Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd

“Yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.”—Marc 10:9

Mae Jehofa yn disgwyl inni ‘garu teyrngarwch.’ (Micha 6:8) Mae hynny’n wir yn enwedig mewn priodas, oherwydd heb deyrngarwch, neu ffyddlondeb, ni allwch chi ymddiried yn eich gilydd. Hefyd, mae’n hanfodol ichi ymddiried yn eich gilydd er mwyn i gariad flodeuo.

Heddiw mae ffyddlondeb mewn priodas o dan fygythiad. Er mwyn amddiffyn eich priodas, mae’n rhaid ichi fod yn benderfynol o wneud dau beth.

1 RHOWCH FLAENORIAETH I’CH PRIODAS

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Y dylen ni “fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth.” (Effesiaid 5:15, 16) Mae’n ddoeth i ystyried eich priodas fel un o’r pethau pwysicaf yn eich bywyd. Mae’n haeddu blaenoriaeth.

Mae Jehofa eisiau ichi roi sylw manwl i’ch cymar a ‘mwynhau bywyd’ gyda’ch gilydd. (Pregethwr 9:9) Mae Jehofa yn ei gwneud hi’n eglur na ddylech chi byth ddiystyru eich cymar. Yn hytrach, dylai’r ddau ohonoch edrych am ffyrdd o wneud eich gilydd yn hapus. (1 Corinthiaid 10:24) Gwnewch i’ch cymar deimlo ei fod yn bwysig, ac yn werthfawr.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Sicrhewch eich bod chi’n treulio amser gyda’ch gilydd yn rheolaidd, gan roi eich holl sylw i’ch cymar

  • Meddyliwch am “ni” yn lle “fi”

2 DIOGELWCH EICH CALON

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Mae pob un sy’n edrych mewn blys ar wraig, eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.’ (Mathew 5:28) Petai rhywun yn parhau i feddwl am bethau anfoesol, mewn ffordd mae’n bod yn anffyddlon i’w gymar.

Mae Jehofa yn dweud y dylech chi edrych ar ôl eich meddwl a’ch calon. (Diarhebion 4:23; Jeremeia 17:9) Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid ichi warchod eich llygaid. (Mathew 5:29, 30) Dilynwch esiampl Job, a wnaeth gytundeb gyda’i lygaid i beidio byth ag edrych ar ddynes arall â chwant. (Job 31:1) Byddwch yn benderfynol i beidio byth ag edrych ar bornograffi, ac i osgoi meithrin teimladau rhamantus tuag at unrhyw un heblaw am eich cymar.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gwnewch hi’n amlwg i eraill eich bod chi’n hollol ffyddlon i’ch cymar

  • Ystyriwch deimladau eich cymar, a dewch ag unrhyw berthynas sy’n gwneud iddo deimlo’n anesmwyth i ben ar unwaith