Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 6

Sut Mae Babi yn Newid Priodas

Sut Mae Babi yn Newid Priodas

“Etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion.”—Salm 127:3

Gall genedigaeth babi fod yn amser cyffrous, ond gallith hefyd rhoi pwysau ar gwpl. Fel rhieni newydd, efallai byddwch yn synnu wrth ddarganfod bod y rhan fwyaf o’ch amser ac egni yn cael eu defnyddio i ofalu am eich babi. Gall diffyg cwsg a newidiadau emosiynol roi straen ar eich perthynas. Bydd rhaid i chi a’ch cymar wneud newidiadau er mwyn gofalu am eich babi a diogelu eich priodas. Sut gall cyngor y Beibl eich helpu chi i wynebu heriau o’r fath?

1 SUT MAE BABI YN NEWID EICH BYWYD?

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig.’ Nid yw’n ‘mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg. Dydy ef ddim yn digio.’ (1 Corinthiaid 13:4, 5, beibl.net) Fel mam newydd, mae’n naturiol ichi roi eich holl sylw i’r babi. Ond, gall eich gŵr deimlo eich bod chi wedi anghofio amdano, felly cofiwch fod angen sylw arno ef hefyd. Gydag amynedd a charedigrwydd, gallwch ei helpu i deimlo’n bwysig a’i fod yn cymryd rhan mewn gofalu am eich plentyn.

“Chwi wŷr, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol.” (1 Pedr 3:7) Deallwch y bydd eich gwraig yn rhoi’r rhan fwyaf o’i hegni i’ch babi. Mae ganddi gyfrifoldebau newydd ac efallai y bydd hi’n teimlo dan bwysau, yn flinedig iawn, neu hyd yn oed yn ddigalon. Ar adegau, efallai fe fydd hi’n ddig gyda chi, ond cadwch yn dawel, oherwydd mae’n well i ‘fod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr.’ (Diarhebion 16:32) Byddwch yn ddoeth, a rhowch gefnogaeth iddi yn ôl yr angen.—Diarhebion 14:29.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Tadau: Helpwch eich gwraig i ofalu am y babi, hyd yn oed yn ystod y nos. Treuliwch lai o amser ar weithgareddau eraill er mwyn cael mwy o amser gyda’ch gwraig a’ch babi

  • Mamau: Pan fydd eich gŵr yn cynnig help gyda’r babi, derbyniwch ei gymorth. Os nad yw’n gwneud y gwaith yn berffaith, peidiwch â’i feirniadu, dangoswch iddo yn gariadus sut i’w wneud

2 CRYFHEWCH EICH PERTHYNAS

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Byddant yn un cnawd.” (Genesis 2:24) Er bod gennych aelod newydd o’r teulu, cofiwch eich bod chi a’ch cymar dal yn “un cnawd.” Gwnewch bob ymdrech i gadw eich perthynas yn gadarn.

Wragedd, byddwch yn ddiolchgar am gefnogaeth a chymorth eich gŵr. Gall fynegi eich gwerthfawrogiad ei “iacháu.” (Diarhebion 12:18) Wŷr, dywedwch wrth eich gwraig faint rydych yn ei charu a’i gwerthfawrogi. Rhowch ganmoliaeth iddi am y ffordd mae hi’n gofalu am y teulu.—Diarhebion 31:10, 28.

“Peidied neb â cheisio’i les ei hun, ond lles ei gymydog.” (1 Corinthiaid 10:24) Gwnewch yr hyn sydd er les eich cymar bob amser. Fel cwpl, cymerwch amser i siarad, canmol, a gwrando ar eich gilydd. Byddwch yn anhunanol yn eich perthynas rhywiol. Ystyriwch anghenion eich cymar. Mae’r Beibl yn dweud: ‘Peidiwch â gwrthod eich gilydd, oni bai ichwi gytuno ar hyn.’ (1 Corinthiaid 7:3-5) Felly, trafodwch y pwnc yma yn onest gyda’ch gilydd. Bydd eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn cryfhau eich perthynas.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Cofiwch neilltuo amser ar gyfer eich gilydd fel cwpl

  • Gwnewch y pethau bychain i ddangos eich cariad. Er enghraifft, anfonwch nodyn neu rhowch anrheg fach

3 HYFFORDDWCH EICH BABI

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Er yn blentyn [rwyt] yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn i iachawdwriaeth.” (2 Timotheus 3:15) Cynlluniwch yr hyn y byddech chi’n ei wneud i ddysgu eich babi. Mae ganddo allu rhyfeddol i ddysgu, hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. Yn y groth, mae eich babi yn gallu adnabod eich llais ac ymateb i’ch teimladau. Darllenwch iddo dra ei fod yn faban. Er nad yw’n deall yr hyn rydych yn ei ddarllen, gall hyn ei helpu i fwynhau darllen wrth iddo dyfu i fyny.

Dydy eich babi byth yn rhy ifanc i’ch clywed yn siarad am Dduw. Gadewch iddo eich clywed chi yn gweddïo. (Deuteronomium 11:19) Hyd yn oed wrth chwarae gyda’ch gilydd, siaradwch am y pethau mae Duw wedi eu creu. (Salm 78:3, 4) Wrth i’ch plentyn dyfu i fyny, fe fydd yn gweld eich cariad chi tuag at Jehofa ac yn dysgu i’w garu ef hefyd.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gweddïwch yn benodol am ddoethineb i hyfforddi eich babi

  • Ailadroddwch eiriau a syniadau allweddol i’ch babi er mwyn iddo ddechrau dysgu yn gynnar