Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 28

Gwerthfawrogi’r Hyn Mae Jehofa ac Iesu Wedi ei Wneud Drostoch Chi

Gwerthfawrogi’r Hyn Mae Jehofa ac Iesu Wedi ei Wneud Drostoch Chi

Sut rydych chi’n teimlo pan fydd ffrind yn rhoi anrheg ichi? Mae’n siŵr eich bod chi wrth eich bodd ac eisiau dangos eich bod yn ddiolchgar. Mae Jehofa ac Iesu wedi rhoi inni’r anrheg fwyaf erioed​—y pridwerth. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar?

1. Beth yw un ffordd y gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am yr hyn mae Duw a Christ wedi ei wneud?

Mae’r Beibl yn dweud y bydd pawb “sy’n ymarfer ffydd [yn Iesu]” yn cael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Beth mae ymarfer ffydd yn ei olygu? Mae angen inni ddangos ein ffydd drwy ein dewisiadau a’n gweithredoedd. (Iago 2:17) Pan ddangoswn ein ffydd mewn gair a gweithred, mae ein perthynas â Iesu a’i Dad, Jehofa, yn mynd o nerth i nerth.​—Darllenwch Ioan 14:21.

2. Pa ddigwyddiad arbennig sy’n rhoi cyfle inni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am yr hyn mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud?

Y noson cyn iddo farw, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr am ffordd arall i ddangos eu bod nhw’n ddiolchgar am ei aberth. Dywedodd y dylen nhw ddod ynghyd ar gyfer digwyddiad arbennig, sef “Swper yr Arglwydd,” a elwir hefyd yn Goffadwriaeth marwolaeth Crist. (1 Corinthiaid 11:20) Roedd Iesu eisiau i’w apostolion​—a phob gwir Gristion ar ôl hynny​—gofio ei fod wedi rhoi ei fywyd droston ni. Gorchmynnodd Iesu: “Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.” (Luc 22:19) Drwy fynd i’r Goffadwriaeth, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi cariad mawr Jehofa ac Iesu tuag aton ni.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch am ffyrdd eraill i ddangos eich bod yn ddiolchgar am gariad Jehofa ac Iesu. Ystyriwch pa mor bwysig yw Coffadwriaeth marwolaeth Crist.

3. Beth gallwn ni ei wneud i ddangos ein bod ni’n ddiolchgar?

Dychmygwch fod rhywun wedi eich achub rhag boddi. A fyddech chi’n cerdded i ffwrdd ac anghofio am ei garedigrwydd? Neu a fyddech chi’n edrych am ffyrdd i ddangos eich bod yn ddiolchgar?

Rydyn ni’n ddyledus am ein bywydau i Jehofa. Darllenwch 1 Ioan 4:8-10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam mae aberth Iesu’n rhodd mor arbennig?

  • Sut rydych chi’n teimlo am bopeth y mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drostoch chi?

Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi yr hyn mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud? Darllenwch 2 Corinthiaid 5:15 a 1 Ioan 4:11, 5:3. Ar ôl darllen yr adnodau fesul un, trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Yn ôl yr adnod honno, sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar?

4. Efelychu Iesu

Ffordd arall inni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar yw drwy efelychu Iesu. Darllenwch 1 Pedr 2:21, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ym mha ffyrdd gallwch chi ddilyn yn ôl traed Iesu?

5. Mynd i Goffadwriaeth Marwolaeth Iesu

I weld beth ddigwyddodd pan gyflwynodd Iesu Swper yr Arglwydd am y tro cyntaf, darllenwch Luc 22:14, 19, 20. Ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth ddigwyddodd yn ystod Swper yr Arglwydd?

  • Beth mae’r bara a’r gwin yn ei gynrychioli? ​—Gweler adnodau 19 a 20.

Roedd Iesu am i’w ddisgyblion gynnal Swper yr Arglwydd unwaith y flwyddyn, ar ddyddiad ei farwolaeth. Felly, mae Tystion Jehofa yn dod ynghyd unwaith y flwyddyn i gofio marwolaeth Crist, gan ddilyn y patrwm a osododd Iesu. I ddysgu mwy am y cyfarfod pwysig hwn, gwyliwch y FIDEO. Ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Beth sy’n digwydd yn ystod y Goffadwriaeth?

Yn y Goffadwriaeth, mae’r bara yn cynrychioli’r corff perffaith a roddodd Iesu Grist yn aberth droston ni. Mae’r gwin yn cynrychioli ei waed

BYDD RHAI YN DWEUD: “Cewch chi eich achub dim ond ichi gredu yn Iesu.”

  • Sut gallwch chi ddefnyddio Ioan 3:16 ac Iago 2:17 i ddangos bod angen mwy na chredu yn unig?

CRYNODEB

Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi aberth Iesu drwy roi ein ffydd ynddo ar waith a thrwy fynd i Goffadwriaeth ei farwolaeth bob blwyddyn.

Adolygu

  • Sut rydyn ni’n rhoi ein ffydd yn Iesu ar waith?

  • Sut hoffech chi ddangos eich bod chi’n ddiolchgar am yr hyn y mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drostoch chi?

  • Pam mae’n bwysig inni fynd i Goffadwriaeth marwolaeth Crist?

Nod

DARGANFOD MWY

Beth mae marwolaeth Crist yn ein hysgogi ni i’w wneud?

Defnyddiodd Ei Gorff i Anrhydeddu Jehofa (9:28)

Dysgwch fwy am ffydd a sut gallwn ni ei rhoi ar waith.

“Ymarfer Dy Ffydd yn Addewidion Jehofa” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 2016)

Gwelwch sut mae dysgu am aberth Crist wedi effeithio ar fywyd un ddynes yn yr hanes “Dw i’n Teimlo’n Lân, yn Fyw, ac yn Gyfan.”

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Awst 1, 2011)

Ystyriwch pam mai dim ond nifer bach o bobl sy’n cymryd y bara a’r gwin yn y Goffadwriaeth.

“Pam Mae Tystion Jehofa yn Wahanol i Grefyddau Eraill yn y Ffordd Maen Nhw’n Dathlu Swper yr Arglwydd?” (Erthygl ar jw.org)