Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 39

Safbwynt Duw Tuag at Waed

Safbwynt Duw Tuag at Waed

Mae gwaed yn hanfodol bwysig. Ni allwn ni fyw hebddo. Duw yw’r Creawdwr, felly ef sydd â’r hawl i ddweud sut gallwn ni ddefnyddio gwaed. Beth mae Duw wedi ei ddweud? A yw’n iawn inni fwyta gwaed, neu ei drallwyso? A sut gallwch chi wneud penderfyniadau da ynglŷn â gwaed?

1. Beth yw safbwynt Duw tuag at waed?

Dywedodd Duw wrth ei bobl yn amser y Beibl: “Mae bywyd pob creadur byw yn y gwaed.” (Lefiticus 17:14) I Jehofa, mae gwaed yn cynrychioli bywyd. Gan fod bywyd yn rhodd sanctaidd oddi wrth Dduw, mae gwaed yn sanctaidd hefyd.

2. Yn ôl gorchymyn Duw, beth na ddylen ni ei wneud â gwaed?

Rhoddodd Duw orchymyn i’w addolwyr yn y cyfnod cyn Crist i beidio â bwyta gwaed. (Darllenwch Genesis 9:4 a Lefiticus 17:10.) Rhoddodd Duw yr un gorchymyn eto pan ddywedodd y corff llywodraethol y dylai Cristnogion ‘wrthod . . . gwaed.’—Darllenwch Actau 15:28, 29.

Beth mae hyn yn ei olygu? Petai meddyg yn dweud wrthoch chi am wrthod alcohol, yn sicr na fyddech chi’n ei yfed. Ond, a fyddech chi’n bwyta bwydydd sy’n cynnwys alcohol, neu’n derbyn alcohol yn syth i mewn i’ch gwythiennau trwy nodwydd? Na fyddech, wrth reswm. Yn yr un modd, mae gorchymyn Duw i wrthod gwaed yn golygu na ddylen ni yfed gwaed neu fwyta cig sydd heb ei waedu. Ac ni ddylen ni fwyta bwyd sydd â gwaed yn un o’r cynhwysion.

Beth am ddefnyddio gwaed at ddibenion meddygol? Mae rhai triniaethau yn amlwg yn groes i gyfreithiau Duw. Ymhlith y rhain yw trallwyso gwaed cyfan neu un o’i brif gyfansoddion—sef celloedd coch, celloedd gwyn, platennau, a phlasma. Ond yn achos triniaethau eraill, nid yw’r sefyllfa wastad mor eglur. Er enghraifft, mae rhai triniaethau yn gofyn am ddefnyddio ffracsiynau sy’n dod o un o brif gyfansoddion gwaed. Mae triniaethau eraill yn gofyn am ddefnyddio gwaed y claf ei hun. Wrth bwyso a mesur y dewisiadau, bydd rhaid i bob un ohonon ni wneud penderfyniad personol. aGalatiaid 6:5.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut i wneud penderfyniadau meddygol sy’n ymwneud â gwaed.

3. Gwneud penderfyniadau meddygol sy’n plesio Jehofa

Sut gallwch chi wneud penderfyniadau meddygol sy’n cyd-fynd â safbwynt Duw? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch bwysigrwydd y camau sy’n dilyn.

  • Gweddïwch am ddoethineb.—Iago 1:5.

  • Gwnewch ymchwil ar egwyddorion y Beibl ac ystyriwch sut maen nhw’n berthnasol.—Diarhebion 13:16.

  • Dysgwch am y dewisiadau sydd ar gael yn eich ardal chi.

  • Penderfynwch pa ddewisiadau a fyddai’n hollol annerbyniol i chi.

  • Sicrhewch y bydd eich penderfyniad yn cadw eich cydwybod yn lân.—Actau 24:16. b

  • Cofiwch na ddylai neb—gan gynnwys eich cymar, un o’r henuriaid, neu’r un sy’n eich helpu chi i astudio’r Beibl—ddweud wrthoch chi am beth i’w wneud mewn materion sy’n ymwneud â’r gydwybod.—Rhufeiniaid 14:12.

  • Cofnodwch eich penderfyniad fel bod eraill yn gwybod amdano.

4. Mae Tystion Jehofa yn ceisio gofal meddygol o’r safon orau

Mae’n bosib cadw at gyfraith Duw a chael gofal meddygol o safon uchel heb ddefnyddio gwaed. Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Titus 3:2, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam dylen ni fod yn addfwyn ac yn fodlon cydweithredu â gweithwyr meddygol?

Annerbyniol

Y Cristion i Benderfynu

A. Plasma

Ffracsiynau sy’n dod o blasma

B. Celloedd gwyn

Ffracsiynau sy’n dod o gelloedd gwyn

C. Platennau

Ffracsiynau sy’n dod o blatennau

Ch. Celloedd coch

Ffracsiynau sy’n dod o gelloedd coch

 5. Penderfyniadau ynglŷn â ffracsiynau gwaed

Mae pedwar prif gyfansoddyn i waed—celloedd coch, celloedd gwyn, platennau, a phlasma. Yn y cyfansoddion hyn y mae rhannau llai a elwir yn ffracsiynau gwaed. c Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i drin rhai clefydau neu i atal gwaedu.

O ran ffracsiynau gwaed, bydd rhaid i bob Cristion wneud penderfyniad personol, gan wrando ar ei gydwybod, sydd wedi ei hyfforddi gan y Beibl. Bydd rhai yn penderfynu gwrthod triniaethau o’r fath. Ond bydd cydwybod Cristnogion eraill yn caniatáu iddyn nhw dderbyn ffracsiynau gwaed.

Wrth benderfynu, ystyriwch y cwestiwn hwn:

  • Sut bydda i’n esbonio i’r meddyg pam bydda i naill ai’n gwrthod neu’n derbyn ffracsiynau gwaed?

BYDD RHAI YN GOFYN: “Beth sydd o’i le ar drallwysiadau gwaed?”

  • Beth rydych chi’n ei feddwl?

CRYNODEB

Mae Jehofa eisiau inni beidio â chamddefnyddio gwaed.

Adolygu

  • Pam mae Jehofa yn ystyried gwaed yn sanctaidd?

  • Sut rydyn ni’n gwybod bod gorchymyn Duw i wrthod gwaed yn berthnasol i drallwysiadau gwaed?

  • Sut gallwch chi wneud penderfyniadau da ynglŷn â defnyddio gwaed at ddibenion meddygol?

Nod

DARGANFOD MWY

Beth dylech chi ei ystyried wrth benderfynu ar driniaethau meddygol sy’n defnyddio eich gwaed eich hun?

“Cwestiynau Ein Darllenwyr” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 15, 2000)

Beth dylech chi ei ystyried wrth benderfynu a fyddwch chi’n derbyn ffracsiynau gwaed?

“Cwestiynau Ein Darllenwyr” (Y Tŵr Gwylio, Mehefin 15, 2004)

Pam daeth meddyg i gredu bod safbwynt Jehofa ar waed yn rhesymol?

“Derbyniais Safbwynt Duw ar Waed” (Deffrwch!, Rhagfyr 8, 2003)

Dysgwch sut mae henuriaid sy’n gwasanaethu ar Bwyllgorau Cyswllt Ysbytai yn cefnogi eu brodyr a chwiorydd.

Mae Jehofa yn Gefn i’r Rhai Sâl (10:23)

a Gweler Gwers 35, “Sut i Wneud Penderfyniadau Da.”

b Gweler  pwynt 5, “Penderfyniadau Ynglŷn â Ffracsiynau Gwaed”; Ôl-nodyn 3, “Triniaethau Meddygol Sy’n Ymwneud â Gwaed”; ac Ein Gweinidogaeth Tachwedd 2006, tudalennau 3-6.

c Mae rhai meddygon yn defnyddio’r term ‘ffracsiynau’ ar gyfer pedwar prif gyfansoddyn gwaed. Felly mae’n bosib y bydd rhaid ichi sicrhau bod y meddyg wedi deall eich penderfyniad i beidio â derbyn trallwysiadau o waed cyfan, celloedd coch, celloedd gwyn, platennau, neu blasma.