Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 34

Sut Gallwn Ni Ddangos Ein Bod Ni’n Caru Jehofa?

Sut Gallwn Ni Ddangos Ein Bod Ni’n Caru Jehofa?

Ydych chi’n teimlo’n agosach at Dduw ers ichi ddechrau astudio’r Beibl? Hoffech chi wneud eich perthynas ag ef yn gryfach fyth? Os felly, cofiwch y bydd Jehofa, wrth iddo weld eich cariad tuag ato’n tyfu, yn eich caru chi a gofalu amdanoch chi’n fwy. Sut gallwch chi ddangos eich bod yn ei garu?

1. Sut gallwn ni ddangos i Jehofa ein bod ni’n ei garu?

Dangoswn ein cariad at Jehofa drwy ufuddhau iddo. (Darllenwch 1 Ioan 5:3.) Nid yw Jehofa’n gorfodi neb i fod yn ufudd iddo. Yn hytrach, mae’n rhoi cyfle inni ddewis a fyddwn ni’n ufuddhau iddo neu beidio. Pam felly? Mae Jehofa am inni fod yn “ufudd o’r galon.” (Rhufeiniaid 6:17) Hynny yw, y mae am ichi ufuddhau iddo, nid dan orfodaeth, ond oherwydd eich bod yn ei garu. Pwrpas rhan 3 a 4 o’r llyfr hwn yw eich helpu chi i ddangos eich cariad at Jehofa drwy wneud y pethau sy’n ei blesio, ac osgoi’r pethau sydd ddim yn ei blesio.

2. Pam mae dangos ein cariad at Jehofa yn gallu bod yn anodd weithiau?

“Mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion.” (Salm 34:19) Rydyn ni i gyd yn brwydro yn erbyn ein gwendidau. Mae rhai hefyd yn wynebu problemau economaidd, anghyfiawnder, ac anawsterau eraill. Pan fydd bywyd yn anodd, gall fod yn her i wneud beth mae Jehofa yn ei ofyn. Yn aml, bydd y llwybr anghywir yn haws. Ond drwy ddewis bod yn ufudd i Jehofa, rydych chi’n dangos eich bod yn ei garu yn fwy na dim byd arall. Ac rydych chi’n profi eich bod yn ffyddlon iddo. A bydd yntau, yn ei dro, yn ffyddlon i chi. Ni fydd byth yn troi ei gefn arnoch chi.—Darllenwch Salm 18:25.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch pam mae eich ufudd-dod yn bwysig i Jehofa, a gwelwch beth all eich helpu chi i aros yn ffyddlon iddo.

3. Cyhuddiad sy’n eich cynnwys chi

Darllenwn yn llyfr Job fod Satan wedi cyhuddo, nid yn unig Job, ond pawb sydd eisiau gwasanaethu Jehofa. Darllenwch Job 1:1, 6–2:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Yn ôl Satan, pam roedd Job yn ufudd i Jehofa?—Gweler Job 1:9-11.

  • Beth mae Satan yn ei honni amdanon ni i gyd?—Gweler Job 2:4.

Darllenwch Job 23:11, 12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut profodd Job ei fod yn caru Jehofa?

Profodd Job ei fod yn caru Jehofa drwy aros yn ffyddlon iddo

Rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru Jehofa drwy aros yn ffyddlon iddo

4. Gwnewch Jehofa yn hapus

Darllenwch Diarhebion 27:11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae Jehofa yn teimlo pan fyddwch chi’n ddoeth ac yn ufudd iddo? Pam?

5. Gallwch fod yn ffyddlon i Jehofa

Mae ein cariad at Jehofa yn ein hysgogi ni i siarad ag eraill amdano. Mae ein ffyddlondeb iddo yn ein hysgogi ni i wneud hynny hyd yn oed pan nad yw’n hawdd. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Ydy hi’n anodd weithiau i chi siarad ag eraill am Jehofa?

  • Yn y fideo, beth helpodd Grayson i drechu ei ofn?

Mae’n llawer haws bod yn ffyddlon os ydyn ni’n caru’r pethau mae Jehofa yn eu caru, ac yn casáu’r pethau y mae yn eu casáu. Darllenwch Salm 97:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ar sail yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu, beth yw rhai o’r pethau y mae Jehofa yn eu caru? Beth yw rhai o’r pethau y mae yn eu casáu?

  • Sut gallwch chi ddysgu caru pethau da a chasáu pethau drwg?

6. Mae ufuddhau i Jehofa o fudd mawr inni

Ufuddhau i Jehofa sydd orau bob amser. Darllenwch Eseia 48:17, 18, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n meddwl ein bod ni’n gallu dibynnu ar Jehofa i wybod beth sydd orau inni? Pam?

  • Sut mae astudio’r Beibl a dod i adnabod y gwir Dduw, Jehofa, wedi bod o fudd ichi hyd yn hyn?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydy beth dw i’n ei wneud ddim o unrhyw bwys i Dduw.”

  • Pa adnod gallwch ei defnyddio i ddangos bod ein hymddygiad yn effeithio ar deimladau Jehofa?

CRYNODEB

Gallwch ddangos eich cariad at Jehofa drwy ufuddhau iddo ac aros yn ffyddlon er gwaethaf anawsterau.

Adolygu

  • Beth ddysgoch chi o esiampl Job?

  • Sut byddwch chi’n profi eich bod yn caru Jehofa?

  • Beth fydd yn eich helpu chi i aros yn ffyddlon i Jehofa?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch sut gallwch fod yn ffyddlon i Jehofa ac i’r gynulleidfa.

“Ffyddlon i’r Rhai Sy’n Ffyddlon” (16:49)

Dysgwch fwy am gyhuddiadau Satan yn erbyn bodau dynol.

“Ffyddlondeb Job” (Y Beibl—Beth Yw Ei Neges? rhan 6)

Ystyriwch sut mae hyd yn oed plant yn gallu dangos eu bod nhw’n caru Jehofa.

Gwna Jehofa’n Hapus (8:16)

Sut gall pobl ifanc aros yn ffyddlon i Dduw er gwaethaf pwysau gan eraill?

Gwrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion (3:59)